Dyfarnu cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch i Dr Leigh Jones am ei waith addysgu
Mae Dr Jones wedi derbyn cydnabyddiaeth broffesiynol yn ddiweddar fel Cymrawd yr Academi Addysg Uwch sy'n golygu ei fod wedi cyrraedd y safonau priodol mewn addysgu a chefnogi dysgu ar lefel addysg uwch o dan Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF). Llongyfarchiadau Dr Jones.
Meddai Dr Jones: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch. Cefais y broses ymgeisio yn brofiad hynod o werthfawr a ganiataodd i mi adfyfyrio ar fy wyth mlynedd fel darlithydd prifysgol ac yn ddiamau bydd yn cynnig llwyfan i mi ddatblygu a gwella fy ngwaith addysgu ohono dros y blynyddoedd i ddod. ”
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016