Efo secwinau cynaliadwy ar gael, does dim rhaid i chwyldro gwyrdd fod yn ddi-liw!
Gyda secwinau'n dal yn hynod boblogaidd ym myd 'ffasiwn cyflym', mae un cwmni bychan yn gobeithio ychwanegu tipyn o liw a chynaliadwyedd yr un pryd drwy ddatblygu secwin bioddiraddadwy.
Mae ffasiwn cyflym yn aml yn cael ei feirniadu am gynyddu maint y defnyddiau sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. Ac mae'r bri mawr ar secwinau ond yn ychwanegu haen o blastig na ellir ei ailgylchu i'r gymysgedd honno.
Mae un cwmni'n gobeithio newid hynny i gyd fodd bynnag. Sefydlodd Rachel Clowes The Sustainable Sequin Company flwyddyn yn ôl i ddarparu secwinau cynaliadwy i'r diwydiant ffasiwn.
Ar hyn o bryd mae Rachel yn defnyddio plastig wedi'i ailgylchu i ddarparu secwinau parod a rhai wedi'u gwneud yn arbennig o wahanol siapiau a meintiau. Secwinau Rachel wedi'u gwneud o blastig wedi'i ailgylchu yw'r cam cyntaf tuag at ei nod o ddatblygu secwin y gellir ei gompostio. Wrth ddefnyddio'r rhain ar ddefnydd bioddiraddadwy, gallai'r dilledyn cyfan bydru'n naturiol ar ôl ei anfon i safle tirlenwi.
Mae Rachel wedi troi at arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor ac wedi gofyn iddynt ddefnyddio eu profiad sylweddol i wireddu ei nod.
Mae gan Ganolfan Biogyfansoddion y Brifysgol dros 30 mlynedd o brofiad o ddarparu deunyddiau neu gynhwysion amgen yn seiliedig ar blanhigion i ddiwydiannau gweithgynhyrchu ac adeiladu i ddisodli deunyddiau anadnewyddadwy. Maent eisoes wedi cyfrannu gwybodaeth i ddatblygu amrywiaeth o nwyddau'n llwyddiannus, o waelodion pitsa y gellir eu compostio, caeadau ailgylchadwy i gwpanau coffi a bocsys wyau wedi'u seilio ar laswellt, i ddeunyddiau adeiladu bio-seiliedig a hyd yn oed gydrannau ceir.
Meddai Graham Ormondroyd o'r Ganolfan Biogyfansoddion: “Mae'n ddiddorol cael cyfle i ddatrys problem ffasiwn am newid ond, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn wahanol i sialensiau eraill rydym ni wedi'u datrys”.
“Yr hyn rydym ni'n ei brofi ar hyn o bryd yw a yw'r lliwurau a'r llenwyr sy'n rhoi'r lliw a'r elfen symudliw yn effeithio ar y broses ddiraddio pan mae'r defnydd yn dod i ddiwedd ei oes.
Ychwanegodd Rachel:
“Mi fyddwn i wrth fy modd pe bawn i'n gallu darparu rhywbeth gwell i'r diwydiant ffasiwn yn lle secwinau plastig a ddefnyddir unwaith yn unig. Byddai'n wych pe bai'r diwydiant cyfan yn cymryd sylw o'r hyn yr ydym wedi'i gynhyrchu / yn ei ddatblygu ac yn ymuno â ni i ddatblygu a defnyddio secwinau adnewyddadwy. "
Yn wahanol i blastigau cyffredin sy'n deillio o betroliwm, bydd y secwinau wedi'u gwneud o ddeunyddiau adnewyddadwy o ffynonellau naturiol. Byddant yn cael llai o effaith ar y blaned, gan y byddant wedi'u gwneud o ddeunyddiau planhigion adnewyddadwy sydd ar gael yn rhwydd ac a all bydru ar ddiwedd eu hoes ddefnyddiol.
Mae'r Ganolfan Biogyfansoddion yn arbenigwyr ar ddatblygu plastigau bio-seiliedig ar gyfer ystod o ddefnyddiau a gofynion technegol. Maent yn defnyddio'r technolegau diweddaraf i helpu cwmnïau diwydiannol i gynhyrchu nwyddau sy'n rhoi dewisiadau amgen na phlastigau anadnewyddadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2019