Gwella diogelwch bwyd yn Ethiopia: Rôl amaeth-goedwigaeth
Yn ddiweddar rhyddhawyd ffilm fer a gynhyrchwyd gan Brifysgol Bangor a'r World Agroforestry Centre (ICRAF) ac mae ar gael ar YouTube. Cafodd ei ffilmio yn rhanbarth Tigray o ogledd Ethiopia ac mae'n cyferbynnu dau safle astudio sydd â gwahanol lefelau o orchudd coed. Mae wedi'i seilio ar ymchwil a wnaed yn 2012 gan Emelda Hachoofwe (cyn fyfyriwr MSc Coedamaeth) a Genevieve Lamond (Cymrawd Dysgu yn SENRGY), ac a ddilynwyd yn 2013 gan waith gan Martha Cronin (ymgynghorydd yn ICRAF ond hefyd un arall o'n cyn-fyfyrwyr Coedamaeth) Mae'r tirweddau'n ddramatig ac maent yn dangos pwysigrwydd gorchudd llystyfiant i ddadwneud effeithiau difrifol diraddiad tir a gwella'r gallu i gynhyrchu bwyd.
Cliciwch yma i wylio'r ffilm.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2014