Mae gwerthoedd cysegredig yn allweddol i sicrhau cadwraeth coedwigoedd sydd ar ôl yn Ethiopia
Mae coedwigoedd sy'n gysegredig i bobl leol yn llai tebygol o ddioddef datgoedwigo yn ôl canlyniadau ymchwil gan Brifysgol Bangor.
Mae ucheldiroedd anghysbell Gamo yn ne-orllewin eithaf Ethiopia yn ganolfan bwysig o fioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae'n destun pryder, felly, bod ymchwil sydd newydd ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Global Ecology and Conservation gan Dr Desalegn Desissa Daye a'r Athro John Healey o'r Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, wedi dangos bod yr ardal sy'n weddill o goedwigoedd naturiol a glaswelltir yn Ucheldiroedd Gamo wedi lleihau fwy na thraean er 1995 o ganlyniad i'w troi'n dir amaethyddol.
Fodd bynnag, nid yw'r sefyllfa'n gwbl ddiobaith gan fod ymchwil Bangor wedi dangos bod y coedwigoedd naturiol sydd ar ôl sy'n gysegredig i'r bobl leol wedi dioddef llawer llai o ddatgoedwigo na'r coedwigoedd sydd heb y gwerth diwylliannol hwn. Ond, er bod y coedwigoedd cysegredig yn cael mwy o warchodaeth gan gymunedau lleol, maent yn dal dan gryn fygythiad. Maent yn parhau fel llecynnau bach ynysig ac mae'r gwerthoedd traddodiadol a oedd yn gysylltiedig â'r coedwigoedd hyn yn cael eu herydu o fewn y gymdeithas leol. Felly, bydd cadwraeth bioamrywiaeth yn y rhan hon o Ethiopia yn dibynnu ar gyfuniad o gefnogaeth i werthoedd diwylliannol traddodiadol, mesurau cadwraeth ymarferol i warchod ac adfer y coedwigoedd cysegredig, a gwelliannau yng nghynaliadwyedd defnyddio tir amaethyddol yn yr ucheldiroedd.
"Gan fod coedwigoedd cysegredig i'w cael mewn llawer o ddiwylliannau o gwmpas y byd, mae yna beth gobaith o hyd y gall parhad y gwerthoedd hyn wneud cyfraniad pwysig i gadwraeth bioamrywiaeth," meddai John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2015