Mark Stevens o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wyneb yn wyneb â Paxman
Fe wnaeth Mark Stevens, myfyriwr is-radd yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, helpu Prifysgol Bangor i drechu Prifysgol St Andrews yn rownd gyntaf cyfres 2012/2013 o University Challenge. Mae’r sgôr terfynol o 125 i Fangor a 105 i’r gwrthwynebwyr yn golygu i’r tîm drechu eu cystadleuwyr Celtaidd, gan symud ymlaen i’r rownd nesaf.
Mae Mark newydd ddechrau ar ei drydedd flwyddyn yn astudio am BSc mewn Gwyddor yr Amgylchedd, a chafodd ei ddewis i gynrychioli’r Brifysgol o grŵp o dros 100 o fyfyrwyr a gymerodd ran yn y treialon cychwynnol. Gwelwyd buddugoliaeth Bangor ar y teledu ar BBC2 Wales am 8pm ar 24 Medi 2012.
Meddai Dr Prysor Williams, Cyfarwyddwr y Cwrs ar gyfer y radd BSc mewn Gwyddorau’r Amgylchedd, “mae’n newyddion gwych i Fangor ac mae’n dda gweld Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn cael ei chynrychioli ym mhair cystadleuaeth ryng-golegol. Mae Mark yn glod i’r Ysgol, a dymunwn yn dda iawn i’r tîm yn y rownd nesaf”.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2012