Modelu’r cefnfor i ddatgelu lle mae siarcod yn nofio ym Mae Ceredigion
Mae gwyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor yn datblygu modelau morol newydd ar gyfer y Prosiect SIARC, menter gyffrous sy'n cynnig y cyfle i gymunedau gymryd rhan mewn diogelu rhai o rywogaethau prinnaf y môr yng Nghymru fel maelgwn, morgathod du, cŵn gleision a chŵn pigog.
Mae cyfraniad y brifysgol i’r project yn dilyn cysylltiad Dr Sophie Ward a Dr Peter Robins â’r Prosiect Maelgwn Cymru, pan wnaethant fodelu’r cefnfor ym Mae Ceredigion, Cymru.
Ar gyfer Prosiect SIARC, bydd Dr Sophie Ward a Dr Peter Robins yn datblygu modelau cefnforol cydraniad uchel o ddwy Ardal Cadwraeth Arbennig bwysig yng Nghymru: Pen Llŷn a'r Sarnau a Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd.
Bwriad y gwaith hwn yw deall sut mae ceryntau dŵr yn llifo drwy’r rhanbarth. Bydd hyn yn helpu i ddehongli canlyniadau'r arolygon DNA-amgylcheddol (eDNA) yn y baeau.
Dros gyfnod o flwyddyn, bydd samplau dŵr yn cael eu cymryd ar hyd yr arfordir a'u samplu ar gyfer eDNA rhywogaethau siarcod (elasmobranciad). Mae eDNA yn samplau microsgopig o DNA sy'n cael eu gadael yn yr amgylchedd naturiol ac sy'n gallu datgelu beth sydd wedi bod yn yr ardal.
Drwy efelychu llif a yrrir gan y llanw a’r gwynt yn yr ardal, bydd tîm Gwyddorau’r Eigion yn helpu partneriaid eraill, gan gynnwys Cymdeithas Sŵolegol Llundain neu ZSL, sy’n arwain y project, i ystyried tarddiad yr elasmobranciad eDNA, gan sefydlu patrymau tymhorol a gofodol presenoldeb y siarcod yn ardaloedd cadwraeth arbennig Cymru.
Dywedodd Dr Sophie Ward, Cymrawd Ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau’r Eigion:
“Mae hwn yn broject cyffrous ac yn ddefnydd rhagorol o’n galluoedd i fodelu’r cefnfor yn yr Ysgol Gwyddorau’r Eigion. Mae’n fraint cael bod yn rhan o ymdrech cadwraeth gydweithredol fel hon, sydd mor agos i gartref hefyd.”
Meddai Dr Peter Robins, Uwch Ddarlithydd mewn Eigioneg Ffisegol:
“Rydym yn gweld bod ôl troed gofodol eDNA ar hyd arfordir garw ac agored Cymru yn gallu bod yn bellgyrhaeddol ac amrywiol, ac mae hynny'n gyffrous. Rydym yn gobeithio sefydlu dull modelu arsylwi cypledig y gellir ei drosglwyddo i astudiaethau eraill am wasgariad.”
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2022