Myfyriwr Bangor yn creu porth adloniant i deithwyr tren
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr am y Datblygwr Gorau mewn hacathon cyntaf erioed i’w gynnal ar dren yn Ewrop.
Bu Jamie Woodruff, sy’n fyfyriwr yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, yn rhan o ddigwyddiad HackTrain ynghyd â’i dîm Captivate.
Mae hacathon yn ddigwyddiad sy’n rhoi’r sialens i dimau bychan i ddatblygu a chreu cynnyrch gwreiddiol. Fel arfer bydd timau o raglennwyr, dylunwyr ac entrepreneuriaid yn dod at ei gilydd dros benwythnos er mwyn creu cynnyrch i thema neu ddiwydiant penodol.
Cafodd y timau sialensiau i’w datrys gan gwmnïau trenau blaenllaw yn ystod y digwyddiad HackTrain. Dros gyfnod o 48 awr, roedd nifer o gynnyrch technoleg fodern wedi ei greu gyda’r nod o wella’r profiad o deithio ar dren.
Penderfynodd Jamie a’i dîm Captivate greu porth i ddefnyddwyr heb gysylltiad WiFi ar drenau. Y syniad yw bod teithwyr yn gallu cael gweld ffilmiau a chwarae gemau ayyb o’u dyfeisiau personol.
Daeth tîm Captivate yn drydydd yn y gystadleuaeth, ac yn ôl HackTrain roeddent wedi gwneud cynnydd arbennig yn ei gwaith a hefyd wedi llwyddo i dreialu’r cynnyrch gyda chwmni tren ar siwrne iawn.
Dywedodd Ed Maclean, Arweinydd Cyfryngau’r trefnwyr,
“Enillodd Jamie’r wobr am Ddatblygwr Gorau ar HackTrain. Roedden ni wedi ein syfrdanu gyda’r hyn wnaeth ei greu gyda Captivate. Mae Captivate yn borth i storio cynnwys fel rhaglenni teledu, gemau a ffilmiau ar ffonau a thabledi personol er mwyn i deithwyr tren eu gwylio heb gysylltiad i’r we.
Bu deg tîm yn cystadlu yn HackTrain eleni a daeth Jamie a’i dîm yn drydydd. Maen nhw ar hyn o bryd yn edrych ar fasnacheiddio’r dechnoleg ac yn barod wedi cael cytundeb i gael 72,000 o raglenni teledu, gemau a ffilmiau ar eu platfform.”
Straeon perthnasol:
Haciwr Moesegol ar y Rhyngrwyd yn ennill gwobr o £1,000
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gwneud y rhyngrwyd yn lle diogelach
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2015