Myfyriwr Graddedig ADNODD yn helpu i hyrwyddo coedamaeth yn Sahel, lle mae newyn yn bygwth
Graddiodd David Beaton o Brifysgol Bangor ym 2009 gyda BSc mewn Amaethyddiaeth, Cadwraeth a’r Amgylchedd, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn rhanbarth y Sahel yn Niger, Affrica, ar gyfer sefydliad Serving in Mission, sydd wedi’i leoli yn Awstralia.
Mae Niger ymysg y gwledydd tlotaf yn y byd, a 70% o’r boblogaeth yn gweithio mewn amaethyddiaeth ymgynhaliol. Yn anffodus, mae 80% o Niger yn dir anial, a rhanbarth y Sahel yn nodedig am ei sychder a’i diffeithdiro. Oherwydd y straen ar gynnyrch amaethyddol, mae newyn yn fygythiad parhaus, a chredir bod mwy na 5 miliwn o bobl mewn perygl o brinder bwyd.
Fodd bynnag, mae project “Sowing Seeds of Change in the Sahel” (SSCS) y mae David yn gweithio arno yn ceisio gweithio gyda ffermwyr a rhoi addysg yn canolbwyntio ar ddulliau o droi’r tir yn wyrdd o’r newydd a gwella amodau amaethu. Mae defnyddio technegau coedamaeth yn un agwedd bwysig ar y gwaith. Edrychir ar arferion coedamaeth fel dulliau y gall ffermwyr ymgynhaliol eu defnyddio i ailgyflenwi maetholion pridd a chynhyrchu cnydau bwyd, yn ogystal â thanwydd i goginio a choed i adeiladu. Rhoddir gwybodaeth i ffermwyr trwy ddiwrnodau hyfforddi a rhaglenni radio. Ar ben hynny, mae gwaith David gyda phroject SSCS hefyd yn cysylltu â Sefydliadau All-Lywodraeth a grwpiau ymchwil eraill, gan weithio i ddatblygu arferion coedamaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2012