Myfyriwr o SENRGy yn cynhyrchu adroddiad o Gynhadledd Gynllunio Cymru
Yn ddiweddar cynhyrchodd un o fyfyrwyr SENRGy, Abigail Low, adroddiad ôl-gynhadledd ar gyfer Cynhadledd Gynllunio Cymru 2012. Trefnwyd y gynhadledd gan y Royal Town Planning Institute (RTPI). Hwn yw corff amlycaf Prydain ym maes cynllunio gofodol, cynaliadwy a chynhwysol a’r sefydliad mwyaf o’i fath yn Ewrop.
Bydd Abigail yn dechrau ar flwyddyn olaf ei gradd BSc Cynllunio a Rheoli’r Amgylchedd ym Medi a bu yn y gynhadledd yng Nghaerdydd ddechrau Mehefin. Daeth y nifer uchaf erioed i’r gynhadledd, a fu’n canolbwyntio ar gynllunio’n lleol a phwysigrwydd gwneud penderfyniadau’n lleol.
Un o ganlyniadau hollbwysig unrhyw gynhadledd yw cofnod cywir o’r gweithgareddau a wnaed a’r syniadau a’r wybodaeth a gyflwynwyd i’r cynadleddwyr. Dyma lle daeth Abigail i’r amlwg gan ysgrifennu’r Adroddiad Gweithdy i’r Gweithdy ar Gludiant, sef un o nifer o weithdai a gynhaliwyd yn ystod y gynhadledd.
Mae adroddiad Abigail , ‘Good transport can do great things but can it be delivered through the planning process?’ yn crynhoi’r safbwyntiau a gyflwynwyd gan aelodau’r gweithdy, yn arbennig ynghylch dulliau gweithredu i wella rhwydwaith cludiant gwledydd Prydain. Mater pwysig yw’r rhwystrau y gall y system gynllunio eu hwynebu wrth geisio cyflwyno system gludiant fodern.
Meddai Dr Amin Kamete, Cyfarwyddwr Cwrs y radd BSc y mae Abigail yn astudio arni, “Mae’n wych o beth gweld ein myfyrwyr yn cynnig eu hunain i ymgymryd â chyfrifoldebau o’r fath. Bydd ymwneud â chyrff proffesiynol a mynychu digwyddiadau fel y rhain o fudd mawr i Abigail gyda'i hastudiaethau academaidd ac wrth iddi chwilio am waith ar ôl graddio."
Gellir cael manylion am Gynhadledd Gynllunio Cymru yr RTPI yma:
http://www.rtpi.org.uk/the-rtpi-near-you/rtpi-cymru/wales-planning-conference/
Mae Adroddiad Gweithdy Abigail i’w gael yma:
http://www.rtpi.org.uk/media/1353771/transport.pdf
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2012