Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cwblhau Blas ar Waith gyda GO Wales
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cwblhau Blas ar Waith GO Wales yn ddiweddar yn y Sw Fynydd Cymreig, Bae Colwyn.
Mae Mollie Duggan Edwards, 20, o Fethel ger Caernarfon, ar ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, yn astudio Bioleg Môr . Fe wnaeth hi gais am y Blas ar Waith yn y gobaith o ennill rhywfaint o brofiad gwaith gwerthfawr i gryfhau ei CV.
Dywedodd Mollie, "Cefais amser gwerth chweil yn y Sw. Teitl fy swydd oedd 'Cynorthwyydd y Clwb Sŵolegwyr Ifanc . Fel mae'r teitl yn awgrymu, fy mhrif ddyletswydd oedd cynorthwyo'r sŵolegwyr ifanc, wrth wneud gweithgareddau drwy gydol y dydd. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys: sgyrsiau addysgol gan geidwaid y Sw, treial o amgylch llwybrau'r Sw, bwydo'r anifeiliaid, sesiynau crefft, a gemau ar y lawnt. Cefais lawer o hwyl!
"Roedd y sŵolegwyr ifanc yn blant 8-12 oed o'r ardal leol. Roedd yn wych gweld fod bob un o'r plant yn ymddangos i fod yn frwdfrydig dros fywyd gwyllt. Roedd y mwyafrif o' r plant yn bresennol ar gyfer yr holl ddyddiau sŵolegydd ifanc - a oedd yn rhedeg bob dydd Mawrth a dydd Iau drwy gydol mis Awst.
"Roedd dyddiau'r sŵolegwyr ifanc yn addysgol iawn, ac mae’n syndod faint rwyf wedi ei ddysgu trwyddynt! Un o'r pethau gorau am y rhaglen hon oedd y rhyngweithio rhwng staff y sw a'r plant . Mae'r plant sy'n mynychu clwb y sw yn cael eu gwahodd 'tu ôl i'r llenni' ac yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd ddim yn agored i’r cyhoedd.
"Mae themâu gwahanol ar gyfer pob dydd, er enghraifft 'diwrnod pysgod,' ‘diwrnod ymlusgiaid ac amffibiaid ' a 'diwrnod mamaliaid' i enwi dim ond rhai. Ar ddiwrnod pysgod, bûm yn helpu'r plant i fwydo'r llewod môr Califfornia - roedd hyn yn lawer o hwyl! Ar ddiwrnod llysysydd , bûm yn helpu'r plant i fwydo'r camelod . Y Ganolfan Addysg oedd y safle sylfaenol ar gyfer dyddiau'r sw, mae'n adeilad swynol ac yn llawn o bob math o anifeiliaid byw - o ffuredau i lyffantod."
Dyma y tro cyntaf i Mollie gael gweithio gyda phlant mewn amgylched addysgol. O ganlyniad i'r gwaith blasu hwn, mae hi bellach yn ystyried gyrfa mewn addysg gynradd.
Dywedodd Lis Owen , Rheolwr Blas ar Waith Go Wales, "Mae'r Sw Mynydd Cymreig wedi cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr trwy raglen Blas ar Waith GO Wales ers 2004. Yn ddiweddar, fel rhan o ddathliadau 10fed Pen blwydd GO Wales fe wnaethom gyflwyno gwobr i Sue Coleman, Swyddog Addysg y Sw am y 'cyfraniad mwyaf rhagorol i brofiad gwaith.'
"Maent yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr Sŵoleg, Gwyddorau Biolegol ac Addysg i redeg gweithgareddau dros yr haf ar gyfer y Clwb Sŵolegydd Ifanc.
"Yn ogystal â chael llawer o hwyl, mae’r myfyrwyr yn gallu profi'r gwaith o redeg y sw yn ystod misoedd prysur yr haf law yn llaw a datblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â’u gradd i wella eu CV . "
Dywedodd Sue Coleman , Swyddog Addysg y Sw Mynydd Cymreig, "Roedd yn ddefnyddiol iawn cael cymorth ychwanegol yn ystod ein tymor prysuraf i gynllunio, paratoi a rhedeg y rhaglen Sŵolegydd Ifanc.”
Ychwanegodd Mollie, "Roedd fy mhrofiad Blas ar Waith yn hynod bleserus , ond yn bennaf oll mae wedi agor fy llygaid i wahanol lwybrau gyrfa. Buaswn yn bendant yn argymell y rhaglen i unrhyw un sy'n ystyried profiad gwaith.”
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2013