Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth busnes cenedlaethol
Mae myfyrwraig coedwigaeth o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth busnes cenedlaethol a gynhelir gan elusen sy'n cefnogi entrepreneuriaid sy'n fyfyrwyr neu'n raddedigion. Mae Jemima Letts, 21, wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Effaith Cymdeithasol Tata am ei busnes Tree Sparks, menter gymdeithasol sy’n bwriadu cychwyn trafodaeth ymhlith pobl ifanc 15-19 oed am ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn ogystal ag amlygu bod swyddi o fewn y sector amgylcheddol yn ddichonadwy i bobl ifanc.
Mae'r gystadleuaeth Varsity Pitch, a gynhelir gan NACUE (National Association of College and University Entrepreneurs) mewn partneriaeth â Tata, yn gwahodd perchnogion busnesau ifanc arloesol i gyflwyno eu syniadau am y cyfle i ennill £10,000 i helpu ariannu eu syniad busnes. Yn y rowndiau cynderfynol, bydd Tree Sparks yn cystadlu yn erbyn pum busnes arall yn eu categori, o flaen panel o feirniaid arbenigol.
Pryd: Dydd Mawrth, 16 Hydref
Ble: NatWest Entrepreneur Accelerator, Llundain
Os yn llwyddiannus, caiff Jemima ei gwahodd i fŵt camp lle caiff ei mentora a derbyn cefnogaeth cyn y rownd derfynol ar y 12fed o Dachwedd yn 56VC yng nghanol Llundain.
Sefydlwyd Tree Sparks gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru, rhan o wasanaeth Busnes Cymru i annog entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru. Caiff Syniadau Mawr Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i hanelu at unrhyw un rhwng 5 a 25 oed sy’n dymuno datblygu syniad busnes.
Mae enillwyr blaenorol NACUE Varsity Pitch yn cynnwys Motus Innovation, sy'n grymuso dioddefwyr strôc i adennill eu hannibyniaeth, AEROPOWDR sy'n trawsnewid gwastraff plu cyw iâr yn gynhyrchion cynaliadwy a Blaze, cwmni beicio arloesol sydd wedi partneru yn ddiweddar gyda Santander Cycles yn Llundain i gael eu goleuadau diogelwch wedi eu ffitio i’w beiciau.
Wrth siarad am ei llwyddiant, dywedodd Jemima:
"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis i fod yn rownd gynderfynol ar gyfer y gystadleuaeth Varsity ac yr wyf yn edrych ymlaen i fynd ar y llwyfan i drafod fy syniadau ar gyfer Tree Sparks. Dw i wedi mopio fy mod wedi cael y cyfle i gynrychioli Prifysgol Bangor ac yr wyf yn hynod ddiolchgar i B-Fentrus a fy narlithwyr am yr holl gefnogaeth. Rwy’n gobeithio bydd pawb yn falch ohonof!"
Straeon perthansol:
Tree Sparks yn mynd o nerth i nerth
Syniadau Mawr myfyrwyr Bangor
Myfyrwraig Prifysgol Bangor yn cychwyn busnes eco-ymwybyddiaeth
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018