Myfyrwraig Prifysgol Bangor i gynrychioli Prydain Fawr mewn Pencampwriaethau Cyfeiriannu
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Cyfeiriannu Prifysgolion y Byd yn y Ffindir ym mis Gorffennaf.
Mae Katie Reynolds, 23, o Abertawe, ar fin cwblhau gradd Meistr mewn Bioleg Môr a derbyniodd Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Bangor yn 2017.
Ar ôl cychwyn cyfeiriannu’n 10 oed gyda’i rhieni brwdfrydig, mae Katie bellach yn ail yng Nghymru ar y lefel hon.
Meddai Katie: "Rwyf wedi bod yn hyfforddi ac yn cystadlu ers yr oeddwn yn blentyn. Fe wnes barhau i gyfeiriannu gan fy mod yn gweld hyn yn llawer mwy diddorol na rhedeg neu draws gwlad. Mae'n ychwanegu her newydd i ras."
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Katie wedi cael nifer o lwyddiannau nodedig gan gynnwys dod yn drydydd ym Mhencampwriaeth Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) 2018; dod yn gyntaf yn ras gyfnewid BUCS yn 2016; Pencampwr Cyfnewid Prydain 2016; ail yng nghategori sbrint Gŵyl Ryngwladol Cyfeiriannu Jan Kjellström 2016; ail ym Mhencampwriaethau Sbrint Awstralia 2016 a 24ain ym Mhencampwriaethau Prifysgol y Byd yn 2016.
I gael ei dewis, bu'n rhaid i Katie rasio yng Ngŵyl Cyfeiriannu Ryngwladol Jan Kjellström dros y Pasg, gan gymryd rhan yng nghystadlaethau BUCS ac ym Mhencampwriaethau Prydain ym mis Mai er mwyn dod ymhlith y chwe athletwr cymwys.
Dywedodd Katie: "Rwy'n hapus iawn, yn falch ac yn llawn cyffro i gael fy newis. Ro'n i'n poeni na fyddwn i'n ddigon heini gan fy mod wedi cael gaeaf caled gydag anaf a salwch, ond mi weithiais yn galed i fod yn ffit ar gyfer y rasys dewis, wrth geisio cadw ar ben gwaith prifysgol! Cefais lawer o gymorth gan fy hyfforddwr cryfder a chyflyru, Talisa o Ganolfan Brailsford, ac fe weithiom yn galed ar fy ngwendidau.
"Rwy'n edrych ymlaen at gynrychioli Prifysgol Bangor ym Mhencampwriaethau Prifysgolion y Byd. Heb gefnogaeth yr ysgoloriaeth a'r hyfforddi, rwy'n amau na fyddwn wedi gwneud y tîm, felly rwy'n ddiolchgar i'r Brifysgol am eu cefnogaeth!"
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2018