Myfyrwyr busnes yn brolio eu syniadau mewn cystadleuaeth Farchnata genedlaethol
Yn ddiweddar, cymerodd dau dîm o Ysgol Busnes Bangor ran yn rownd derfynol ‘Brolio/ The Pitch’, cystadleuaeth ar draws prifysgolion Cymru a drefnwyd gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) a than nawdd Llywodraeth Cymru. Eleni, yr her oedd datblygu ymgyrch arloesol, yn hyrwyddo Cynnal Cymru – Sustain Wales, a thraddodi 3 munud o anerchiad o flaen panel o weithwyr proffesiynol ym myd marchnata a beirniaid. Roedd gofyn ar i’r timau ymateb i gyfarwyddyd manwl a buont yn ystyried cyllidebau ac offer negeseua a marchnata yn eu cyflwyniadau, gan ddangos eu dealltwriaeth o senario busnes go-iawn.Tîm 'Egni Bangor': (Chwith i dde) Charlotte Doyle, Steffan Thomas a Dyfan Searell
Roedd y tîm cyntaf, ‘Egni Bangor’, yn cynnwys Charlotte Doyle, Dyfan Searell a Steffan Thomas. Roedd eu broliant yn anelu at ddod â sefydliadau at ei gilydd er mwyn creu cysylltiadau tymor hir trwy wahanol ddigwyddiadau. Roedd ‘The Lighthouse Group’ (Karyn Davison, Timur Pavlivskiy a Jim Walmsley) hefyd yn cymryd rhan, a’u broliant hwy yn anelu at ddod â chwmnïau at ei gilydd er mwyn iddynt gydweithio trwy nifer o brosesau mewnol ac allanol.
Meddai Steffan Thomas, myfyriwr PhD mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor, “Rhoddodd Brolio/The Pitch gyfle imi ddefnyddio theori marchnata yn ymarferol a gweithio gyda myfyrwyr eraill o wahanol gefndiroedd a disgyblaethau. Yn y mis oedd yn arwain at y digwyddiad, byddai aelodau fy nhîm a minnau’n cyfarfod er mwyn cynllunio ein broliant , gan obeithio creu argraff dda ar y beirniaid. Roedd y profiad yn gyfle gwych i rwydweithio, ac i gwrdd â staff a myfyrwyr o brifysgolion eraill yng Nghymru."
Ychwanegodd Karyn Davison, myfyrwraig Bl.3 mewn Busnes a Marchnata, “Roedd cymryd rhan yn ‘Brolio/ The Pitch’ yn brofiad gwych, a byddwn yn ei ganmol wrth unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd marchnata”.'The Lighthouse Group': (chwith i dde) Timur Pavlivskiy, Karyn Davison a Jim Walmsley
“Mae ‘Brolio/The Pitch’ yn brofiad gwych i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn marchnata,” meddai Dr Sara Parry, Darlithydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. “Mae’r cyfarwyddyd a anfonir atynt yr un peth â’r hyn a anfonid at asiantaeth farchnata go-iawn, ac yn gyfle i’r myfyrwyr arddangos, o flaen arbenigwyr diwydiannol, eu creadigrwydd a’u gallu i feddwl yn strategol. Mae cymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i gael profiad ymarferol o farchnata, ac yn amhrisiadwy o ran gwella cyflogadwyedd myfyrwyr.”
Mae fideo ‘Brolio/ThePitch’ i’w weld ar www.youtube.com/broliothepitch, ynghyd â chlip byr ar wahân, yn rhoi adborth y beirniaid. Mae lluniau o’r noson i’w gweld ar http://www.flickr.com/photos/brolio/sets/.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2014