Myfyrwyr SENRGY yn cymryd rhan mewn Gweithdy BRAND
Ar 22 Chwefror 2012, fe wnaeth SENRGY gynnal gweithdy rhyngweithiol ym Mhrifysgol Bangor, lle’r ymunodd myfyrwyr Daearyddiaeth trydedd flwyddyn â Swyddogion Project BRAND Caergybi a’r Rhyl.
Mae Project BRAND yn dod â 4 partner ar draws Cymru ac Iwerddon at ei gilydd gyda’r nod o roi sylw i’r problemau’n ymwneud â hunanddelwedd wael trefi Y Rhyl, Caergybi, Athy, a Dún Laoghaire.
Cymerodd israddedigion Daearyddiaeth trydedd flwyddyn ran mewn gweithdy fel rhan o’r modiwl ‘Settlement Systems’, gyda’r swyddogion BRAND o Gaergybi a’r Rhyl yn cyflwyno’r modelau ail-frandio a ddefnyddiwyd i’r ddwy dref.
Meddai Felicity Roberts, Swyddog Project BRAND Caergybi, “Roedd yn gyfle gwych i egluro’r model rydym yn ei weithredu a rhannu ein profiadau gyda chynulleidfa astud – llawer ohonynt heb fod yn gyfarwydd â’n trefi. Dangosodd gweithgareddau’r gweithdy sut y gallai ein model gael ei weithredu mewn egwyddor mewn trefi neu ddinasoedd eraill.”
BRANDProjectNewsletter-Winter2012.pdf
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2012