Myfyrwyr y Gyfraith a Throseddeg yn ymweld â chanolfan hyfforddi drylliau’r heddlu
Ar Ddydd Mercher, 7 Rhagfyr 2011, arweiniodd yr Athro Suzannah Linton, cadeirydd Cyfraith Ryngwladol yn Yr Athro Suzannah Linton gyda myfyrwyr y Gyfraith a Throseddeg yng Nghanolfan Hyfforddi Drylliau Heddlu Gogledd CymruYsgol y Gyfraith Bangor, grŵp o fyfyrwyr o’r adran Gyfraith a Throseddeg ar daith maes lwyddiannus i Ganolfan Hyfforddi Drylliau Heddlu Gogledd Cymru. Cafodd y myfyrwyr gyflwyniad am sut caiff yr heddlu eu hyfforddi i ddefnyddio grym a drylliau, ac yna cawsant daith o amgylch y safle hyfforddi a adeiladwyd yn arbennig. Hefyd cawsant eu briffio am ddwy awr gan ddau Swyddog Drylliau Arbenigol. Roedd y briffio yn cynnwys materion fel y drefn gyfreithiol mewn perthynas â defnyddio grym a drylliau, tactegau sylfaenol yr heddlu, hawliau dynol mewn plismona modern, defnyddio arfau i gyfateb â’r bygythiadau a asesir a phwysigrwydd hyfforddiant arbenigol. Cafodd y myfyrwyr hefyd gyfle i weld Cerbyd Ymateb Arfog, a thrafod sut y caiff ei ddefnyddio mewn gweithgareddau plismona. Roedd hyn yn cynnwys sefyllfaoedd fel achub gwystlon, lladrad arfog ac ymosodiadau gan derfysgwyr. Mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn ddiolchgar iawn i’r Rhingyll Paul Joyce am drefnu’r ymweliad, ac i'r Rhingyll Mick Jones am dywys y grŵp yn ystod y daith gyffrous hon a oedd llawn gwybodaeth ddiddorol.
Atgynhyrchwyd y llun gyda chaniatâd caredig Heddlu Gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2012