Nawdd Unigryw i Fyfyriwr PhD Ysgol Busnes Bangor
Bydd 5 o fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor yn graddio gyda PhD eleni, ond mae rhywbeth arbennig amdan PhD Anahita Baregheh.
Mewn partneriaeth unigryw gydag Ysgol Busnes Bangor, noddwyd astudiaethau Anahita gan BIC Innovation, ymgynghoriaeth busnes a leolwyd ym Mangor, ac i bwy fu Anahita yn gweithio’n rhan amser yn ystod y flwyddyn derfynol o’i hastudiaethau.
“Roedd y nawdd yn brofiad amhrisiadwy” meddai Anahita, sy’n dod o Iran. “Yn ogystal â fy nghaniatáu i ddilyn cwrs PhD, cefais y cyfle hefyd i gyfrannu at brosiectau BIC ac i gynnal ymchwil marchnata ar gyfer cleientiaid. Cefais fewnwelediad da i mewn i SMEau [‘Small and Medium Enterprises’] ar draws Cymru.” Ychwanegodd: “bydd y profiad hwn yn rhoi’r fantais i mi dros ymgeiswyr eraill yn y farchnad gwaith, gan ei fod o ddim wedi ei seilio ar ymchwil yn unig, ac felly mae’n gwahaniaethu fy PhD o eraill.”
Ffocws PhD Anahita yw arloesiad trefniadaeth mewn SMEau, gan edrych yn fanwl ar brosesau arloesi a sut gellir gwella’r prosesau yma er mwyn optimeiddio canlyniadau.
Meddai Dafydd Davies o BIC Innovation: “roedd Anahita yn fyfyrwraig ffantastig, yn cynnal gwaith ymchwil ar fusnesau bwyd yr ydym yn bwriadu adeiladu arno er mwyn gweithio gyda diwydiannau eraill. Trwy ei gwaith rydym wedi gwella ein dealltwriaeth o’r effaith gall brosesau arloesi cael. Gobeithiwn adeiladu ar ein perthynas gydag Ysgol Busnes Bangor yn y dyfodol a dymunwn y gorau i Anahita am y dyfodol”.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2011