Ni Hao Shanghai!
Mae myfyriwr PhD o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi dychwelyd o ysgol haf hynod bwysig yn China, ac ef oedd yr unig un o Brydain a ddewiswyd i fynd yno. Y Bund, Shanghai
Cynigwyd y cyfle gan Swyddfa Cyfnewidiadau Rhyngwladol y Brifysgol, sydd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gweithio ac astudio tramor.
Fe wnaeth Stephen Clear, y mae ei PhD yn canolbwyntio ar bryniant cyhoeddus ac adolygiadau barnwrol, wneud cais am y rhaglen 16 niwrnod yn SILC, Prifysgol Shanghai, er mwyn dysgu mwy am hanes, diwylliant ac economi China. Yn ogystal â’r dosbarthiadau hyn, cafodd gwrs dwys i ddechreuwyr hefyd mewn Mandarin sylfaenol.
Yn ystod y rhaglen treuliodd Stephen wythnos ar gampws Jiading SILC a’r ail ar gampws Yanchang, Prifysgol Shanghai. Yn ystod y pythefnos cafodd Stephen gyfle i ymweld â nifer o fannau o bwysigrwydd allweddol yn China, yn cynnwys WatertownSuzhou, Mynydd y Teigr, Gardd y Gweinyddwr Gwylaidd, y French Concession, y Bund, Ffordd Nanjing, Pagoda Fahua a Hangzhou. Aeth hyd yn oed ar daith cwch draddodiadol ac ymweld â Watertown yn Zhujiajiao. Meddai Stephen wrth sôn am ei wahanol deithiau ac ymweliadau “roedd yn wych cael profi’r cymysgedd rhwng China draddodiadol, mewn mannau fel Watertown, a chymharu hynny â’r canolfannau busnes mawr mewn mannau fel y Bund a Ffordd Nanjing. Fe wnaeth ymweld â’r mannau amlwg yma roi gwir olwg i mi ar hanes a chefndir China a chymharu hynny â’r adeiladau tal modern, y twf a’r datblygiad economaidd a welir yno.”
Bob bore yn ystod y rhaglen roedd y myfyrwyr yn cael dosbarthiadau iaith Mandarin, gydag arholiad llafar yn cael ei gynnal gan y darlithydd iaith Tsieineaidd ar ddiwedd y rhaglen bythefnos. “Ar gyfer fy arholiad roedd yn rhaid i mi ddysgu’r ffordd gywir o ynganu Pinyin Tsieineaidd, yn ogystal â medru ynganu’r pedair gwahanol oslef Tsieineaidd yn Stephen a'i bartner Cherry mewn gwers Tsieinëeg gywir. Yn olaf, roedd rhaid i mi gael sgwrs am funud mewn Tsieinëeg efo fy mhartner. Roedd iaith China’n hollol ddieithr i mi ac nid oeddwn erioed wedi ei hastudio o’r blaen. Fodd bynnag, roedd y ffordd y cefais fy nysgu yn SILC, a’r arweiniad a gefais gan fy mhartner (myfyriwr presennol o Brifysgol Shanghai a oedd efo mi drwy gydol y pythefnos), yn wych. Yn fuan iawn roeddwn yn dysgu ac yn defnyddio cymalau allweddol mewn Tsieinëeg gydol y dydd. Fe wnaeth y ffaith bod fy mhartner (Cherry) efo mi drwy gydol fy ngweithgareddau o ddydd i ddydd gyfoethogi fy mhrofiad dysgu. Roedd yn awyrgylch llawn cefnogaeth i ddysgu’r iaith.” Yn ei arholiad terfynol, sgoriodd Stephen 90% drwodd a thro yn ei arholiad iaith a chafodd Dystysgrif SILC mewn Tsieinëeg.
Yn ei ddosbarthiadau hanes, dysgodd Stephen am hanes Shanghai, diwylliant Tsieineaidd a breninliniau cynnar China. Ymwelodd hefyd ag Amgueddfa Shanghai i weld creiriau hanesyddol a diwylliannol pwysig. Dysgodd Stephen hefyd am athrawiaethau Confucius ac ymwelodd ag un o demlau’r grefydd honno. “Y dosbarthiadau am hanes China oedd rhan fwyaf pleserus yr ysgol haf i mi. Roedd yn wych cael dysgu mwy am athrawiaethau Confucius ac ymweld ag un o’i Ymweld â'r Gardd Confuciusdemlau. Roedd yr ymweliad hwn yn neilltuol ddefnyddiol i mi gan fod Ysgol y Gyfraith Bangor wedi sefydlu Canolfan Confucius yn ddiweddar.” Ar ddiwedd y pythefnos safodd Stephen arholiad ysgrifenedig ar yr hyn roedd wedi’i ddysgu yn y sesiynau ar hanes China a daeth yn uchaf yn y dosbarth!
Yn y gwersi economeg cafodd Stephen olwg ar gynnydd rhyfeddol China a’r datblygiadau sydd wedi arwain at iddi ddod yn rym ariannol nerthol iawn. Cafodd wybod am dwf China mewn meysydd fel cyfuniadau a chaffaeliadau, buddsoddi tramor uniongyrchol, yn ogystal â chyflogaeth, amodau cymdeithasol a thueddiadau poblogaeth yn China. Fel rhan o’i hyfforddiant, cafodd fynd ar ymweliadau maes diwydiannol i weld ffatri Auto-Das Volkswagen a gwaith dur Baosteel Group Corporation. “Roedd yn rhyfeddol gweld y llinellau cynhyrchu ar waith yn y sefydliadau hyn,” meddai Stephen. Roedd gweld darnau enfawr o ddur gwynias ar gyfer ochrau adeiladau tal yn mynd drwy’r broses gynhyrchu yn Baosteel yn rhywbeth na wna i fyth ei anghofio.” Cafodd gyfle hefyd i ymweld â’r Oriental TV Tower a Chanolfan Ariannol Shanghai, sy’n 1,641 troedfedd o uchder a’r ail adeilad uchaf yn y byd. Fel gyda’r modiwl iaith, cafodd Stephen arholiad ar ddiwedd y rhaglen a chafodd Dystysgrif Grwp Ysgol Haf SILC Prifysgol Shanghai 2012Prifysgol Shanghai mewn Economeg Tsieineaidd.
Wrth drafod ei gyfnod yn China yn fwy cyffredinol, soniodd Stephen am ei brofiadau pleserus yn dysgu crefft ymladd Tai Chi, yn ogystal â blasu bwydydd newydd, megis llyffantod, perfedd hwyaden a chalon cyw iâr. “Fodd bynnag, rhan fwyaf pleserus y profiad cyfan oedd y cyfle i gyfarfod â phobl o wahanol wledydd. Rydw i wedi gadael yr ysgol haf yma efo ffrindiau newydd o Sydney yn Awstralia, Norwy, Iwerddon, Corea a China. Rydym eisoes wedi cytuno i gadw mewn cysylltiad ac eisoes yn trefnu aduniad ym Mangor eleni, ac un yn Sydney flwyddyn nesaf. Fe fyddwn i’n argymell y rhaglen yma’n sicr i unrhyw un sydd â diddordeb gwybod mwy am China. Mae’r darlithwyr ar y cwrs yn gefnogol iawn a byddaf yn aros mewn cysylltiad â llawer ohonynt ar ôl i mi ddychwelyd i Brydain.”
Ac yntau bellach yn ôl ym Mangor, mae Stephen yn bwriadu parhau â dosbarthiadau mewn Tsieinëeg drwy’r Ysgol Dysgu Gydol Oes. Mae hefyd yn bwriadu ymestyn ei wybodaeth a’i brofiad am economeg China ac ysgrifennu papur cymharol ar y cyd ar fasnach pryniant cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd-China.
Wrth sôn am brofiad Stephen, meddai Dr Wei Shi, Darlithydd yn Y Gyfraith a Chyfarwyddwr Canolfan Confucius a sefydlwyd ym Mangor yn ddiweddar: “Fel mae Stephen wedi darganfod drosto’i hun, mae China’n datblygu’n un o brif rymoedd economaidd y byd. Er mwyn elwa i’r eithaf ar y cyfleoedd mae’r farchnad ddeinamig hon yn eu cynnig, mae angen i ni baratoi at y sialensiau sydd o’n blaenau drwy ddeall diwylliannau unigryw China, a meithrin dulliau anhepgor i fasnachu â China. Bydd pontio’r bwlch rhwng Dwyrain a Gorllewin, yn ddiwylliannol ac yng nghyd-destun busnes, yn un o amcanion allweddol y Ganolfan Confucius.”
Bydd Swyddfa Cyfnewidiadau Rhyngwladol Bangor yn hysbysebu rhaglenni haf nesaf o fis Hydref ymlaen, yn cynnwys lleoliadau yn China a De Korea. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch ag andrew.griffith@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012