Ymchwil ynni môr Bangor yn cael ei enwi mewn gwybodaeth Seneddol y DU
Cyfeiriwyd at ymchwil diweddar gan Brifysgol Bangor ar swyddogaeth ynni môr i sicrhau dyfodol carbon isel, gwydn a chynaliadwy mewn eitem ar Ynni Adnewyddadwy Môr yn yr UK Parliament POST.
Roedd y papur, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Energy, dan arweiniad Dr Matt Lewis yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, a fu'n cydweithio gyda diwydiant i feintioli ansawdd y trydan a gynhyrchir gan dyrbinau llanw masnachol sydd wedi eu cysylltu â'r grid yn Ynysoedd Erch, yr Alban.
Dangosodd yr ymchwil y gellid rhagfynegi’r ynni llanw hyd yn oed ar adegau “cythryblus” is-eiliad, a all fod o fudd i systemau grid y dyfodol a fydd yn cynnwys lefelau uchel o ynni adnewyddadwy.
Dywedodd yr Athro Simon Neill, cydawdur yr astudiaeth, “Er bod cost ynni llanw yn uwch ar hyn o bryd na nifer o ffynonellau adnewyddadwy eraill, gall ansawdd a’r gallu i ragfynegi’r trydan a gynhyrchir gan dyrbinau llanw fod yn werth y buddsoddiad ychwanegol”.
Mae POSTNOTE 625 Llywodraeth y DU ar gael yma: https://post.parliament.uk/research-briefings/post-pn-0625/
Mae'r papur gwreiddiol Energy ar gael yma: https://doi.org/10.1016/j.energy.2019.06.181
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2020