Yr asesiad cynhwysfawr cyntaf o effaith newid yn yr hinsawdd ar arfordiroedd a moroedd ledled Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig
Mae gwyddonwyr eigion Prifysgol Bangor wedi cyfrannu at asesiad o effeithiau newid yn yr hinsawdd ar foroedd ac arfordiroedd Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig, a lansiwyd mewn digwyddiad ar-lein ar 22 Gorffennaf 2021 gan y Marine Climate Change Impacts Partnership.
Yr Athro John Turner a Dr Gareth Williams o'r Ysgol Gwyddorau Eigion oedd cyd-awduron Asesiad Rhanbarth Cefnfor Yr India a amlygodd bedair blaenoriaeth, sef y newidiadau mewn rhywogaethau cwrel; newidiadau i gynefinoedd creigresi cwrel; newidiadau i ynysoedd creigresol a thraethau tywodlyd a'r effeithiau ar ddarparu amddiffyniad arfordirol naturiol a gwytnwch i ynysoedd yn wyneb cynnydd yn lefel y môr.
Cynhaliwyd adolygiadau rhanbarthol tebyg gan fwy na 60 o wyddonwyr a rheolwyr sy'n gweithio gyda phob un o 14 Tiriogaeth Dramor y Deyrnas Unedig, sy'n cynnwys y Tiriogaethau Pegynol (De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De (a Thiriogaeth Antarctig Prydain); Tiriogaethau yn Ne'r Iwerydd (Ynysoedd y Dyrchafael, Ynysoedd y Falkland, Ynys Tristan da Cunha ac Ynys y Santes Helena); Y Caribî a Chanol yr Iwerydd (Anguilla, Bermuda, Ynysoedd y Wyryf Prydain, Ynysoedd y Cayman, Montserrat, ac Ynysoedd Turks a Caicos); Môr y Canoldir (Gibraltar ac Akrotiri a Dhekelia yng Nghyprus) ac Ynysoedd Pitcairn yn y Môr Tawel.
Er bod y mwyafrif o’r ynysoedd tiriogaethol yn fach, y Deyrnas Unedig sydd â'r bumed arwynebedd mwyaf o gefnfor, ac mae'r tiriogaethau'n cynnwys 94% o fioamrywiaeth y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i sefydlu 'Llain Las' o dros 4 miliwn cilomedr sgwâr o ardaloedd morol gwarchodedig.
Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd yr Arglwydd Goldsmith, Gweinidog yr Hinsawdd a’r Amgylchedd Rhyngwladol: “Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn fygythiad difrifol i ecosystemau morol hanfodol Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig a’r cymunedau arfordirol sy’n dibynnu’n uniongyrchol arnynt nhw. Trwy gyfrwng gwaith gynnal ymchwil, fel yr adroddiadau a gyhoeddwyd heddiw, gallwn gau bylchau yn ein dealltwriaeth a chael dealltwriaeth cipolwg gwerthfawr a fydd yn ein helpu i ateb yr her fyd-eang o amddiffyn ac adfer iechyd ein cefnfor.”
Meddai'r Athro John Turner: ''Fel Ardal Warchodedig Forol anghysbell wedi ei hamddiffyn yn llwyr, mae Ynysoedd Chagos yng Nghefnfor yr India yn safle cyfeiriol pwysig yn fyd-eang ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd a all godi cwr y llen ar fregusrwydd a gwytnwch yn absenoldeb straenachoswystraenachoswyrr anthropogenig eraill.”
Mae ymchwil gydweithredol rhyngwladol a ariennir gan Sefydliad Bertarelli wedi dangos y caiff cwrelau eu heffeithio gan newid yn yr hinsawdd, gyda chynnydd mewn cannu, a achosir gan straen gwres, yn ogystal â difrod gan stormydd. Mae sawl rhywogaeth cwrel eisoes ar fin bod yn brin neu'n lleihau'n sylweddol. Mae gostyngiad yn ansawdd cynefinoedd creigresi a chymhlethdod strwythurol oherwydd tymheredd yn codi, difrod, ac asideiddio'r cefnforoedd i gyd yn effeithio ar organebau eraill, fel pysgod. Gallai , stormydd a a thhonnau , a phrosesau cefnforol sylweddol a newidiadau yn lefel y môr effeithio ar ynysoedd a thraethau creigresol, yn enwedig ar arfordiroedd sy'n erydu ac yn nannedd y gwynt. Gall y newidiadau hyn effeithio ar ddarpariaeth cynefinoedd daearol hanfodol, amddiffyniad arfordirol naturiol a chadwraeth ynysoedd.
Yn y flwyddyn dyngedfennol hon o weithredu byn fyd-eang ar yr hinsawdd, sy'n cynnwys Cynhadledd Newid Hinsawdd COP26 y Cenhedloedd Unedig y Cenhedloedd Unedig ym mis Tachwedd, mae'r asesiadau hyn yn tynnu sylw at heriau hinsawdd yn Nhiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig ac yn dangos sut y gellir gweithio gyda natur i feithrin cydnerthedd yn wyneb newid yn yr hinsawdd.
Ymhlith yr awduron mae Heather Koldewey a Rachel Jones, Cymdeithas Sŵolegol Llundain; Nadine Atchison-Balmond a Mark Spalding, Gweinyddiaeth Tiriogaeth Cefnfor yr India Prydeinig; Nick Graham, Prifysgol Caerhirfryn;, Chris Perry, Prifysgol Caerwysg; Charles Sheppard, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Warwick; a John Turner a Gareth Williams, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2021