Yr haul yn disgleirio ar raddedigion ADNODD
Daeth haul ac awyr las i gyfarch graddedigion ADNODD eleni ddydd Mercher 18 Gorffennaf 2012 wrth iddynt fynd i'w seremoni raddio yn Neuadd Pritchard Jones. Cyflwynwyd y myfyrwyr gan Dr Christine Cahalan (Pennaeth Ysgol ADNODD) a chadarnhawyd eu graddau gan Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John Hughes a Llywydd y Brifysgol y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Elis-Thomas AC. Graddiodd dros 100 o fyfyrwyr ADNODD gyda graddau cyntaf ac uwch eleni.
Yn dilyn y seremoni, ac yn urddas eu gwisgoedd academaidd, daeth ein myfyrwyr ynghyd i gael llun o’r grŵp ar y lawnt o flaen y Ganolfan Rheolaeth. Ymunodd y myfyrwyr a’u gwesteion â staff ADNODD am dderbyniad yn Neuadd John Phillips gan fwynhau egwyl haeddiannol a lluniaeth ysgafn.
Yn ystod y derbyniad cyflwynwyd nifer o wobrau i fyfyrwyr a oedd wedi llwyddo’n arbennig yn eu hastudiaethau:
Gwobr Williams Griffith: Niall Pettitt (BSc Cadwraeth Amgylcheddol)
Gwobr Gwynedd Gynaliadwy: David Beck (BA Cynllunio a Rheoli Amgylcheddol)
Gwobr ADNODD am y Marc Uchaf yn y Project Anrhydedd: Tom Pienkowski (BSc Cadwraeth Amgylcheddol)
Gwobr ADNODD am Lwyddiant Academaidd (Blwyddyn 2 i 3): Francesca McGrath (BSc Cadwraeth Amgylcheddol)
Gwobr y Sefydliad Coedwigwyr Siartredig: Richard Belcher (BSc Coedwigaeth)
Bwrsariaeth y Gymdeithas Frenhinol Coedwigaeth: Amy Lotay (BSc Coedwigaeth)
Os hoffech dderbyn copïau o’r lluniau hyn, e-bostiwch senrgy@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2012