Rhestr Eithriadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
A. Eithriadau lle'r ystyrir lles y cyhoedd:
a22 Gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi yn y dyfodol
a24 Diogelwch cenedlaethol
a26 Amddiffyn
a27 Cysylltiadau rhyngwladol
a28 Cysylltiadau o fewn y Deyrnas Unedig
a29 Yr economi
a30 Ymchwiliadau a thrafodion a gynhaliwyd gan awdurdodau cyhoeddus
a31 Gweithredu’r gyfraith
a33 Swyddogaethau archwilio
a35 Llunio polisi llywodraeth, etc
a36 Niweidiol i gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol (ac eithrio gwybodaeth a ddelir gan Dy’r Cyffredin neu Dy’r Arglwyddi)
a37 Cyfathrebiadau â’i Mawrhydi, etc., ac anrhydeddau
a38 Iechyd a Diogelwch
a39 Gwybodaeth amgylcheddol
a40 Gwybodaeth bersonol (Dim ond lle mae’r wybodaeth yn ymwneud â thrydydd parti a bod rhybudd a.10 o dan Ddeddf Gwarchod Data 1998 yn berthnasol i'r wybodaeth honno)
a42 Braint broffesiynol gyfreithiol
a43 Buddiannau masnachol
B. Yr eithriadau llwyr
Os yw’r eithriadau hyn yn berthnasol nid oes angen mynd ymlaen i ystyried a ydyw’r datgeliad er lles y cyhoedd ai peidio.
a21 Gwybodaeth y gall ymgeiswyr ei chael trwy ddulliau eraill
a23 Gwybodaeth a ddarparwyd gan gyrff sy’n ymwneud â diogelwch neu’n gysylltiedig â’r cyrff hynny
a32 Cofnodion llysoedd, etc
a34 Seneddol
a36 Niweidiol i gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol (yn berthnasol yn unig i wybodaeth a ddelir gan Dy’r Cyffredin neu Dy’r Arglwyddi)
a40 Gwybodaeth bersonol (lle mae’r ymgeisydd yn wrthrych y wybodaeth)
a41 Gwybodaeth a roddwyd yn gyfrinachol
a44 Gwaharddiadau ar ddatgelu lle gwaherddir datgelu gan ddeddfiad neu lle byddai’n cael ei ystyried yn achos o ddirmyg llys