Gwisg Academaidd
Achlysuron ffurfiol yw seremonïau Graddio, ac mae'n ofynnol i chi wisgo gwisg academaidd y Brifysgol gyda dillad priodol.
Ede & Ravenscroft yw’r gwneuthurwyr gynau swyddogol ar gyfer y Brifysgol a bydd angen i chi archebu gwn yn uniongyrchol oddi wrthynt ymlaen llaw trwy glicio yma .
Os na ellwch archebu’n uniongyrchol dros y we, neu os oes gennych unrhyw ymholiad parthed llogi gŵn neu ffotograffiaeth, dylech gysylltu gyda Ede & Ravenscroft ar 01223 861854 neu https://graduation-services.edeandravenscroft.com/gs-contact-form
Mae yna opsiwn dros y We i archebu trwy'r Gymraeg. Hefyd y mae hi yn rhatach i archebu gwn o flaen llaw na thalu ar y diwrnod.
Gwisg academaidd Prifysgol Bangor
Mae’r lliwiau’n adlewyrchu’r coch a’r aur sydd ar arfbais y Brifysgol.
Diploma israddedig | Gwn graddio du, cwcwll du, cwfl gydag ymyl yn lliwiau coch ac aur y Brifysgol, cap academaidd du cadach. |
Gradd Sylfaen | Gwn graddio du, cwcwll du gyda leinin du, a 1” o liw coch y Brifysgol a 1” o liw aur y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu fewn. Cap academaidd du cadach. |
Graddau baglor | Gwn graddio du, cwcwll du gyda leinin du firenze, a 5” o liw aur y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu allan. 1" o liw coch y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu fewn. Cap academaidd du cadach. |
Meistr israddedig | Gwn graddio du, cwcwll du gyda leinin du firenze, a 5” o liw aur y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu allan. Dau rhuban 1" yn lliw coch y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu fewn. Cap academaidd du cadach. |
Diploma Ôl-Radd | Gwn Ôl-Radd du, cwcwll du gyda leinin du firenze, a 5” o liw aur y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu allan. Dau rhuban 1" yn lliw aur y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu fewn. Cap academaidd du cadach. |
Meistr | Gwn Ôl-radd du, cwcwll du gyda leinin a chyda lliw coch y Brifysgol yn rhwymo ymyl y clogyn. 1" o liw aur y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu fewn. Cap academaidd du cadach. |
MPhil | Gwn graddio du, cwcwll du gyda leinin coch. 1" o liw aur y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu fewn ac ar ymyl y clogyn ar y tu allan. Cap academaidd du cadach. |
Doethuriaeth | Gwn doethuriaeth lliw marwn, gyda 4” o liw coch y Brifysgol a 1” o liw aur y Brifysgol ar yr ymyl ar y tu allan. Cortyn a botwm ar yr iau yn lliw aur y Brifysgol. Y llewys wedi ei leinio yn lliw coch y Brifysgol a’r plygiad ar waelod y llewys wedi ei ddal gyda chortyn a botwm yn lliw aur y Brifysgol. Cwcwll marwn gyda leinin coch. 1" o liw aur y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu fewn ac ar ymyl y clogyn ar y tu allan. Boned du cadach gyda chortyn a thaselau aur/coch. |
Doethuriaeth uwch | Gwn doethuriaeth lliw ysgarlad, gyda 4” o liw coch y Brifysgol a 1” o liw aur y Brifysgol ar yr ymyl ar y tu allan Cortyn a botwm ar yr iau yn lliw aur y Brifysgol. Y llewys wedi ei leinio yn lliw coch y Brifysgol a’r plygiad ar waelod y llewys wedi ei ddal gyda chortyn a botwm yn lliw aur y Brifysgol. Cwcwll ysgarlad gyda leinin yn lliw coch y Brifysgol. 1" o liw aur y Brifysgol ar ymyl y cwfl ar y tu fewn ac ar ymyl y clogyn ar y tu allan. Band coler ysgarlad plaen. Boned du cadach gyda chortyn a thaselau aur/coch. |
[dychwelwch i dudalen hafan graddio]