Coleg Bangor, Tsieina
Mae Coleg Bangor, Tsieina (BCC) wedi'i leoli yn ninas Changsha, prifddinas talaith Hunan. Er mwyn cwrdd â galwadau gan fyfyrwyr lleol a’u rhieni am addysg ryngwladol o ansawdd uchel, ymunodd Prifysgol Bangor a CSUFT mewn partneriaeth strategol ym mis Mai 2012 i sefydlu Ysgol ar y Cyd i ddarparu rhaglenni israddedig yn null y Deyrnas Unedig o fewn fframwaith CSUFT. Derbyniodd y project gefnogaeth gref gan lywodraethau Tsieina a Chymru. Yn dilyn mwy na dwy flynedd o waith paratoi, agorodd BCC ei ddrysau i 262 o fyfyrwyr ym mis Medi 2014. Hon oedd yr ysgol gyntaf ar y cyd rhwng coleg Tsieineaidd a sefydliad tramor i’w hagor yn y dalaith.
I ddechrau, mae BCC yn cynnig rhaglenni israddedig mewn Cyfrifeg a Chyllid, Bancio a Chyllid a Pheirianneg Electronig. Mae pob myfyriwr yn cael ei recriwtio trwy'r system GaoKao Tsieineaidd, ac yn cael ei dderbyn yn haen un gyda marciau Saesneg uchel. Gwneir yr holl addysgu ac asesiadau yn Saesneg gan dîm sy'n cynnwys staff Prifysgol Bangor, staff CSUFT a staff addysgu wedi'u recriwtio'n arbennig.
Gall myfyrwyr sy'n astudio yn BCC ddewis astudio ym Mhrifysgol Bangor am flwyddyn neu ddwy, neu gallant gwblhau'r rhaglen gyfan yn Tsieina. Bwriad y Brifysgol yw ehangu’r Coleg i ryw 2,000 o fyfyrwyr ymhen ychydig flynyddoedd, gan ddarparu cyfleoedd gwirioneddol i Fangor a CSUFT ddatblygu rhaglenni academaidd newydd. Mae Prifysgol Bangor hefyd yn bwriadu datblygu BCC yn ‘ganolfan astudio dramor’ lle gall myfyrwyr Bangor dreulio un neu ddau semester yn astudio ac yn ymchwilio yn Tsieina.
Llawlyfr Staff Coleg Bangor, Tsieina
Mae Llawlyfr Staff BCC wedi'i ddatblygu i gefnogi staff Prifysgol Bangor sy'n teithio i Goleg Bangor, Tsieina. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i helpu staff i baratoi ar gyfer eu hymweliad â Tsieina, p'un ai ar ymweliad byr neu i weithio a byw yn Tsieina yn y tymor hwy.
Partner Prifysgol Bangor, The Central South University of Forestry & Technology (CSUFT)
Mae CSUFT english.csuft.edu.cn/ , a sefydlwyd yn 1958, wedi datblygu i fod yn Brifysgol amlddisgyblaethol sy'n cynnwys ystod eang o ddisgyblaethau mewn gwyddoniaeth, peirianneg, amaethyddiaeth, y celfyddydau, y gyfraith, economeg, rheolaeth ac addysg.
Mae wedi’i hawdurdodi i gynnig ystod gynhwysfawr o raglenni, gan gynnwys rhaglenni Baglor, Meistr, Doethur a rhaglenni Ôl-ddoethuriaeth. Mae gan y Brifysgol 41,000 o fyfyrwyr amser-llawn a chyfanswm y staff yw 2,510.
Gwybodaeth Bellach