Asbestos
Mae’r peryglon o ddod i gysylltiad â gronynnau asbestos wedi'u dogfennu'n dda, a chredir bod cysylltiad hanesyddol wedi lladd mwy o bobl nag unrhyw achos unigol arall sy’n gysylltiedig â gwaith. Gall pob math o asbestos fod yn beryglus os aflonyddir arno, ac mae perygl arbennig yn codi pan fo ffibrau asbestos yn cael eu rhyddhau i’r awyr ac yn ffurfio llwch mân iawn (sy'n aml yn anweladwy) y gall pobl ei anadlu'n ddiarwybod.
Codwyd nifer o adeiladau'r Brifysgol ar adeg pan ddefnyddiwyd asbestos wrth adeiladu. Er mwyn eich diogelu, mae gan y Brifysgol gynllun rheoli a pholisi cynhwysfawr ar waith ar gyfer pob deunydd asbestos hysbys ac ar gyfer gwaith a allai darfu’n ddamweiniol ar asbestos..
Safon Polisi'r Brifysgol a Gwybodaeth am Asbestos
-
Safon Polisi'r Brifysgol: Rheoli Asbestos
Mae'r Polisi hwn, yn nodi pwy sy'n gyfrifol am beth a'r hyn sy'n ofynnol gan y Brifysgol a'i Cholegau a Gwasanaethau Proffesiynol o ran rheoli asbestos.Cefnogir y Polisi gan Gynllun Rheoli Asbestos manwl; mae'r Cynllun hwn yn 'eiddo' i'r Gwasanaethau Campws ac mae'n rhoi manylion am y gwahanol drefniadau a phrosesau a ddefnyddir i reoli asbestos.
Gwybodaeth Gyffredinol
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wybodaeth helaeth iawn am asbestos, a gellir lawrlwytho rhywfaint ohoni o'r cysylltau isod. Ewch i'r gwefannau hyn i ganfod mwy neu cysylltwch yn uniongyrchol â Gwasanaethau Eiddo a Champws.
Safleoedd Gwastraff Lleol sy'n derbyn Asbestos Domestig
Mae nifer o safleoedd yn cymryd cynhyrchion asbestos y gallech ddod ar eu traws yn eich cartref a'ch gardd. Rhaid i chi, wrth gwrs, gymryd gofal eithriadol pan fyddwch yn ymdrin ag asbestos a dilyn arweiniad yr HSE cyn gosod y deunydd mewn dau fag wedi'u selio a'u cludo i'r Orsaf Wastraff.
- Cyngor Gwynedd - Mae gan Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Caernarfon sgip ar gyfer gwastraff asbestos domestig.
- Cyngor Ynys Môn - Mae gan Canolfan Ailgylchu Gwalchmai (gellir derbyn meintiau bach wedi'u bagio a'u selio) .
Cysylltiadau Prifysgol
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch asbestos neu ddeunyddiau amheus stopiwch weithio ar unwaith a chysylltwch ag Iechyd a Diogelwch (3847) neu'r Gwasanaethau Campws (2783).