Bioberyglon
Caiff cysylltiadau â chyfryngau biolegol yn y gwaith eu rheoleiddio'n bennaf gan y Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH) sy'n berthnasol lle gallai rhywun ddod i gysylltiad â nhw fel a ganlyn:
-
gweithio gydag chyfryngau biolegol e.e. mewn labordy microbioleg;
-
cysylltiad nad yw'n deillio o'r gwaith ei hun ond sy'n gysylltiedig â'r gwaith, yn bennaf oherwydd bod cyfryngau biolegol yn bresennol fel halogion e.e. ffermio, casglu sbwriel.
Mae Atodlen 3 COSHH yn ymwneud â chyfryngau biolegol yn unig ac nid yn unig y mae'n dosbarthu cyfryngau biolegol yn unol â meini prawf penodol mae hefyd yn disgrifio'r camau rheoli y mae'n rhaid eu rhoi ar waith, yn ychwanegol at ofynion cyffredinol COSHH wrth weithio gyda chyfryngau biolegol, er enghraifft, arddangos yr Arwydd Bioberygl, lefelau cyfyngiant labordai, hysbysiadau ac ati.
Yn ogystal â COSHH, mae nifer o ofynion deddfwriaethol eraill a all fod yn berthnasol fel Rheoliadau Organebau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Cyfyngedig), Deddf Meinweoedd Dynol 2004, Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 2008 / Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig Cymru 2008 a Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 2009.
Beth yw cyfrwng biolegol?
Dyma ddiffiniad COSHH o gyfrwng biolegol:
'micro-organeb, meithriniad o gelloedd, neu endoparasit dynol, p'un a yw wedi'i addasu'n enetig ai peidio, a allai achosi haint, alergedd, gwenwyndra neu fel arall greu perygl i iechyd pobl'
Sut gall haint ddigwydd?
Gall cyfrwng biolegol fynd i mewn i'ch corff trwy amryw o lwybrau a dyna pam mae'n rhaid i chi nodi'r llwybr mynediad yn eich asesiad risg fel y gallwch roi camau rheoli priodol ar waith. Gall heintiau ddigwydd trwy gysylltiad uniongyrchol ac anuniongyrchol â meithriniad mewn labordy neu feinwe organeb letyol heintiedig, hylif y corff, secretiadau ac ysgarthion. Er enghraifft, y prif lwybrau mynediad i'r corff yw:
Llwybr Mynediad |
Sut |
Cysylltiad â'r croen |
Amsugno trwy'r croen neu drwy doriadau, crafiadau ac ati |
Pilenni mwcws e.e. y llygaid, y trwyn |
Tasgu ar yr wyneb |
Amlyncu |
Bwyta, yfed, ymbincio, pibetio trwy'r geg (ni chaniateir!) |
Clwyfau sy'n torri'r croen |
Anafiadau ffon nodwydd, gwydr wedi torri |
Anadlu |
Halogion yn yr awyr e.e. llwch, erosolau |
Nodi Cyfryngau Biolegol
I wybod a yw sylwedd yn gyfrwng biolegol ai peidio, gweler 'Rhestr Gymeradwy o Gyfryngau Biolegol'y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus . Mae'r 'Rhestr' honno'n dosbarthu cyfryngau biolegol, ac yn eu rhoi yn un o bedwar Grŵp Peryglon a'r dosbarthiad yn dibynnu ar y ffactorau canlynol:
- A all y cyfrwng biolegol achosi afiechyd dynol?
- A all y cyfrwng biolegol achosi afiechyd ymysg y gweithwyr?
- A all y cyfrwng biolegol achosi afiechyd yn y Gymuned?
- A oes proffylacsis / triniaethau effeithiol ar gael?
Grwpiau Peryglon
Diffinnir y pedwar GP fel a ganlyn:
Grŵp Peryglon 1 |
Annhebygol o achosi afiechyd dynol |
Grŵp Peryglon 2 |
Yn gallu achosi afiechyd dynol a gallai fod yn berygl i'r gweithwyr; mae'n annhebygol o ymledu i'r gymuned ac fel arfer mae proffylacsis neu driniaeth ar gael |
Grŵp Peryglon 3 |
Yn gallu achosi afiechyd dynol difrifol a gallai fod yn beryglus iawn i'r gweithwyr; mae'n annhebygol o ymledu i'r gymuned ac fel arfer mae proffylacsis neu driniaeth ar gael |
Grŵp Peryglon 4 |
Yn gallu achosi afiechyd dynol difrifol a gallai fod yn beryglus iawn i'r gweithwyr; mae'n debygol o ymledu i'r gymuned ac fel arfer nid oes proffylacsis na thriniaeth ar gael |
SYLWER: Dim ond Grwpiau Peryglon 2 - 4 sydd ar y Rhestr Gymeradwy |
Mae'r categoriau'n rhoi syniad o berygl cynhenid y cyfryngau a restrir a bydd yn pennu'r camau rheoli y mae'n rhaid eu rhoi ar waith. Fodd bynnag, nid yw'r categoriau'n ystyried y gwaith sy'n cael ei wneud gan ddefnyddio'r cyfrwng e.e. faint ohono, neu a allai fod unrhyw risgiau ychwanegol i'r rhai sydd, er enghraifft, â llai o imiwnedd neu y mae diffyg ar eu himiwnedd neu maent yn feichiog. Rhaid rhoi sylw i hynny yn yr asesiad risg a RHAID cofnodi rhai cyfryngau ar restr Hysbysiadau Statudol y Brifysgol a chael canaiatâd i'w ddefnyddio.
Swyddog Diogelwch Biolegol
Er mwyn cynorthwyo staff a myfyrwyr a allai ddod i gysylltiad â chyfryngau biolegol yn eu gwaith / eu hastudiaethau, penododd y Brifysgol Dr John Latchford yn Swyddog Diogelwch Biolegol y Brifysgol. Felly, yn y lle cyntaf, dylid cyfeirio pob ymholiad ynghylch diogelwch biolegol ac addasu genetig at John.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Cysylltiadau Mewnol:
- Llawlyfr Peryglon Biolegol (Noder: Mae'r Llawlyfr hwn yn rhan o'r Hyfforddiant Peryglon Biolegol a ddarperir gan y Swyddog Diogelwch Biolegol)
-
Gwefan a Ffurflenni GM Prifysgol Bangor (Mynediad Bangor yn Unig)
Cysylltiadau Allanol: