Gwaredu Gwastraff Clinigol
Yn y brifysgol cynhyrchir llawer o wastraff clinigol yn ddyddiol o ystod eang o weithgareddau. Gall hwn, os na chaiff ei drin, ei storio, ei gludo a'i waredu'n iawn beri risgiau i iechyd a diogelwch pobl sy'n gweithio yn y brifysgol, y cyhoedd a'r amgylchedd.
Beth yw gwastraff clinigol?
Mae gwastraff clinigol yn cynnwys y canlynol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol:
- Meinwe dynol
- Meinwe anifeiliaid
- Gwaed, ysgarthiadau neu unrhyw hylifau corfforol eraill o 1. a 2.
AYr holl wastraff arall sydd wedi dod i gysylltiad ag 1. 2. ac 3. Er enghraifft, plastigau, chwistrelli, menig, tywelion papur, gorchuddion
Trefn waredu
Mae'n arfer safonol yn y brifysgol i gael gwared ar yr holl wastraff clinigol trwy ei losgi (trwy'r systemau bagiau melyn/biniau) a/neu awtoclafio addas. Trefnir gwaredu yn lleol, gan yr Ysgol academaidd, ac fe’i cludir o’r safle gan gwmni safonol sydd wedi’i drwyddedu i gario gwastraff clinigol.
Gellir cael mwy o fanylion gan y Iechyd a Diogelwch.
Polisi
Asesiad Risg
Rhaid i ysgolion ac adrannau gynnal yr asesiadau risg angenrheidiol ac ati, sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, sy’n cynnwys y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd a Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith