Gwaith Maes
Gwaith Maes: Gwaith a gyflawnir gan staff neu fyfyrwyr i'r prif ddiben o addysgu a/neu ymchwil mewn lleoliadau i ffwrdd o'r brifysgol lle bo'r brifysgol yn parhau'n gyfrifol am ddiogelwch ac iechyd staff a/neu fyfyrwyr sy'n cymryd rhan ac eraill a effeithir gan eu gweithgareddau.
Mae'r dyletswyddau cyffredinol a amlinellir gan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati a'r Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn dal yn berthnasol i weithgareddau oddi ar y safle, fel gwaith maes academaidd ac ymchwil. Fel y cyfryw, mae'r Brifysgol a'i Cholegau ac Adrannau cyfansoddol, efo rwymedigaeth benodol i sicrhau iechyd a diogelwch pob person(au) sy'n cymryd rhan mewn gwaith maes. Mae hyn yn cynnwys gweithredu gweithdrefnau i:
- Nodi risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwaith maes.
- Sefydlu mesurau rheoli addas i reoli risgiau.
- Asesu a sicrhau cymhwysedd arweinwyr gwaith maes a chyfranogwyr.
- Cynllunio ar gyfer argyfyngau potensial.
Amlygir bod gwaith maes yn rhan annatod o Brifysgol lwyddiannus ac felly dylai iechyd a diogelwch ei gefnogi a cheisio galluogi gweithgareddau i ddigwydd yn ddiogel. Dylai rheolaethau a threfniadau fod 'yno' bob amser i helpu i sicrhau bod gwaith maes yn llwyddiant i bawb.
Mae'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith maes (dramor) wedi cael eu cydnabod gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) a gynhyrchodd Safon Brydeinig (BS 8848) ar gyfer Tripiau a Gweithgareddau Maes. Mae hyn yn ei dro yn cael ei gefnogi gan y
Cymdeithas Diogelwch a Iechyd Prifysgolion (USHA): Canllawiau'r Sector Addysg Uwch ar Iechyd a Diogelwch mewn Gwaith Maes a Theithio (2018).
Mae'r ddogfen Safon Polisi a Gweithdrefnau Gwaith Maes y'n amlinellu'r trefniadau penodol y mae'n rhaid i Golegau / Ysgolion rhoi ar waith i naill ai atal neu reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â gwaith maes yn unol â gofynion deddfwriaethol a'r dogfennau BSI a UCEA. Fel rhan o hyn mae'r Llawlyfrau a'r dogfennau templed cefnogi canlynol hefyd wedi'u cynhyrchu i helpu'r rhai sy'n cynllunio a gwneud gwaith maes:
- Polisi Gwaith Maes
- Gweithdrefnau Rheoli Gwaith Maes
- Llawlyfr Gwaith Maes: 'Teithiau ac Ymweliadau Undydd Cyffredinol'
- Llawlyfr Gwaith Maes: ‘Ymchwil Gymdeithasol a Chymunedol yn y Maes’
- Llawlyfr: Gwaith Maes Addysgir ac Ymchwil Gwaith Maes
- Ffurflen Cyfranogwr
- Ffurflen Gofrestru Daith
- Asesiadau Risg Enghreifftiol
- Astudiaeth Achos / Enghraifft Ymchwil Gymdeithasol RA (a gynhyrchwyd gan IOSH)
NODWCH: Er y bydd y Safon Bolisi Gwaith Maes ac ati, yn gyffredinol yn ymwneud â gwaith maes DU gan fod teithio dramor yn dod o dan Bolisi a threfniadau Teithio Dramor y Brifysgol yn bennaf, bydd rhywfaint o gyngor sylfaenol am gynllunio ar gyfer iechyd a diogelwch ar waith maes tramor hefyd yn cael ei roi.