Asesu a Rheoli Risgiau Pobl yn Gweithio ar eu Pen eu Hunain
Asesu'r Risg
Wrth gynnal asesiad risg pobl yn gweithio ar eu pen eu hunain, mae'n bwysig rhoi'r elfen 'ar eu pen eu hunain' yn ei chyd-destun, gan fod llawer ohonom yn aml 'ar ein pennau ein hunain', naill ai yn y gwaith neu gartref, ond nid yw hyn yn golygu ein bod mewn mwy o berygl.
Fel rheol gyffredinol, y gweithgaredd sy'n parhau i fod yn risg, gyda'r rhan 'ar eu pen eu hunain' o bosibl yn cynyddu'r canlyniadau pe bai'r risg yn cael ei gwireddu oherwydd, er enghraifft, y ffaith nad oedd unrhyw un wrth law i helpu ar unwaith.
Cyn dechrau ar unrhyw weithgaredd gweithio ar eich pen eich hun, gofynnwch bob amser a yw'n rhywbeth y gellir ei gyflawni 'ar eich pen eich hun', neu a oes angen dau berson arno, goruchwyliaeth uniongyrchol ac ati.
Os gellwch gyflawni'r gweithgaredd ar eich pen eich hun, yna dylid ystyried y canlynol wrth asesu'r risg:
Maes | Ystyriwch |
Gweithle | A yw'n peri risg benodol, oherwydd yr amgylchedd, lleoliad, y ffaith ei fod yn anghyfarwydd, dan do, yn yr awyr agored ac ati? |
Person | A yw'r person yn fwy agored i niwed e.e. cyflyrau meddygol, anableddau, mamau beichiog, rhwystrau iaith, rhywedd, oedran hŷn ac ati? |
Gweithgaredd | A ellir ei wneud ar eich pen eich hun e.e. trin â llaw / gweithio o uchder, neu a yw'n peri risg benodol e.e. offer, proses, sylwedd, amser, lleoliad? |
Mynediad | A ellir mynd i mewn i’r gweithle/ allan o’r gweithle yn hawdd? |
Eraill | A oes risg i eraill e.e. ymweld â grŵp / ardal 'risg uchel', ymdrin â’r cyhoedd yn gyffredinol, nad oes modd gwybod beth i’w ddisgwyl, ac ati? |
Gwybodaeth / Hyfforddiant | A oes gan yr unigolyn hyfforddiant a gwybodaeth briodol i gyflawni'r gweithgaredd ar ei ben ei hun? |
Goruchwyliaeth | Pa drefniadau sydd ar waith e.e. gwiriadau rheolaidd, Diogelwch, llofnodi i mewn / allan, amseroedd cyswllt wedi'u hamserlennu, teledu cylch cyfyng, trwyddedau i weithio ac ati? |
Cymorth Brys | A oes cyfleusterau Cymorth Cyntaf ar gael, a ellir galw am gymorth e.e. ffôn symudol, radio, larwm ac ati? |
Gweithdrefnau Brys | A ddarparwyd gwybodaeth am yw hyn i'w wneud mewn argyfwng e.e. tân, hylif/sylwedd yn colli, cymorth cyntaf, rhifau cyswllt ac ati? |
Rheoli'r Risg
Ar ôl i chi asesu'r risg, gallwch chi wedyn benderfynu pa reolaethau sydd eu hangen. Cliciwch ar y canlynol i'ch helpu gyda hyn: