Cyflyrau Iechyd sydd Eisoes yn Bod
Os oes gennych gyflwr iechyd sydd angen triniaeth reolaidd neu achlysurol dylech fynd â digon o feddyginiaeth i bara dros gyfnod eich taith, gan gynnwys unrhyw oedi posib y gellir ei ragweld. Mewn rhai gwledydd lle nad oes llawer o adnoddau, cadwch mewn cof y gallai meddyginiaethau sydd ar werth yn lleol fod yn rhai ffug. Cadwch gopi o'ch presgripsiwn gyda chi ar bob adeg rhag ofn y byddwch yn colli eich meddyginiaeth.
Wrth deithio gyda meddyginiaethau ac ati, gwiriwch pa Reoliadau Cwmni Hedfan sy’n gymwys i chi. Os yw'r cwmni hedfan yn caniatáu, cadwch eich meddyginiaethau gyda chi yn eich bag llaw, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd gyda chi. Yn ogystal, os bydd angen i chi gymryd meddyginiaeth trwy bigiad neu ar ffurf hylif ar yr awyren, gwnewch yn siŵr fod gennych lythyr meddyg teulu yn cadarnhau’r angen i wneud hynny. Bydd angen llythyr meddyg teulu arnoch hefyd os yw eich triniaeth yn cynnwys cyffuriau rheoledig (cyffuriau opiad i ladd poen, rhai tawelyddion) er mwyn osgoi anawsterau wrth fynd i mewn i wlad; mewn rhai gwledydd mae gwaharddiad llwyr ar gyffuriau sy'n seiliedig ar opiadau - codeine, er enghraifft.
Os ystyrir eich salwch neu driniaeth yn brin neu'n anarferol, dylai fod gennych lythyr meddyg teulu yn rhoi manylion am y broblem iechyd a'i rheolaeth arferol.
Os oes gennych broblem iechyd a allasai achosi analluedd sydyn e.e. epilepsi, diabetes, fe'ch cynghorir i hysbysu o leiaf un person arall (yn ddelfrydol rhywun arall a fydd yn teithio gyda chi), er mwyn iddynt allu eich helpu a gwneud yn siŵr, os bydd angen, eich bod yn cael y cymorth cywir.
Os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol, cysylltwch â'ch meddyg teulu rhag ofn y cynghorir rhagofalon pellach:
- Mae cyfanswm y meddyginiaethau sydd eu hangen arnoch yn fwy na'r hyn a ragnodir fel rheol ar un presgripsiwn
- Mae angen asesu neu fonitro meddygol rheolaidd ar eich problem iechyd e.e. profion gwaed
- Gall eich problem achosi analluedd sydyn e.e. epilepsi, diabetes
- Mae gennych imiwnedd diffygiol e.e. yn achos HIV; rydych yn cael eich trin ag imiwnoatalyddion
- Mae'r broblem iechyd yn un mor ddifrifol fel y bu’n rhaid i chi dreulio cyfnod yn yr ysbyty yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
- Mae'r meddyginiaethau a ddefnyddir yn eich triniaeth yn rhai newydd
- Mae eich problem iechyd yn cyfyngu ar eich gallu i wneud ymarfer corff e.e. clefyd y galon
- Rydych yn teithio o fewn 3 mis i salwch mawr e.e. trawiad ar y galon neu lawdriniaeth / triniaeth lle'r oedd hi’n ofynnol aros dros nos yn yr ysbyty