Dyfeisiau Diogelwch a’r Rheolyddion Critigol
Mae nifer o eitemau o offer a systemau'r Brifysgol yn cynnwys dyfeisiadau sydd â’r bwriad o atal neu liniaru effeithiau methiant critigol. Mae enghreifftiau yn cynnwys Falfiau Rhyddhau Gwasgedd, Dyfeisiau Cydgloëdig Mecanyddol, Electro-fecanyddol a Thrydanol, Switshis Cloi-wrth-ddiffodd, Padiau Pwysedd, Sgriniau Sefydlog, a’r cyfan â’r nodwedd gyffredin o ddarparu mecanwaith i atal system neu sicrhau ei bod yn ‘methu mewn modd diogel’, gan amddiffyn pobl, yr amgylchedd ac asedau eraill yn y broses.
Ar ben hynny, mae rhai eitemau yn gofyn am waith cynnal cyson, i sicrhau eu bod yn parhau i weithredu’n effeithiol ac, wrth reswm, yn ddiogel. Dylid nodi ei bod yn bosibl y bydd angen i weithredwyr a’r staff hynny sy’n gyfrifol am brofion, arolygiadau mewnol ac ati hefyd gael hyfforddiant, cyfarwyddyd neu lefel benodol o arbenigedd technegol.
Yn y Tabl isod, ceir enghreifftiau o Ddyfeisiau Diogelwch Critigol ac awgrym ynglŷn ag amserlen ar gyfer profi / archwilio / gwaith cynnal, yn unol â chyfarwyddyd neu Ddeddfwriaeth, canllawiau awdurdodol neu lawlyfrau gan wneuthurwr. Rhaid i eitemau sydd angen Archwiliadau Trylwyr neu Gynllun Ysgrifenedig ar gyfer Archwilio hysbysu Swyddog Yswiriant y Brifysgol a fydd yn trefnu’r rhain drwy Beiriannydd Allanol y Brifysgol.
Nid yw’r Tabl yn cynnwys popeth. Enghreifftiau yw’r rhain o’r hyn a allai fod ag angen prawf / archwiliad / gwaith cynnal ffurfiol, ac o’r cofnodion a allai fod yn ofynnol i gadarnhau bod dyfeisiau diogelwch y system yn gweithio.
Hoffwn ofyn i chi gymryd y cyfle hwn i arolygu eich offer a’ch systemau er mwyn canfod pob un o’r dyfeisiau diogelwch a’r rheolyddion critigol, a chyflwyno dulliau priodol o sicrhau eu bod yn cael eu harchwilio, eu cynnal a’u gweithredu yn ôl y gofyn, gan gadw cofnodion fel yr awgrymir.
Fel rhan o’r broses hon, rhaid gwirio Llawlyfrau / Cyfarwyddiadau Gwneuthurwr. Mae hyn yn hanfodol, gan y bydd y dogfennau hynny’n aml yn nodi beth sydd ei angen yn benodol, ac yn sail ar gyfer trefn drylwyr ar gyfer cynnal a chadw a diogelwch. Yn aml, mae cyrff proffesiynol ac asiantaethau gorfodi hefyd yn cynnig cyngor manwl, yn enwedig o ran dyfeisiau ac offer tra pheryglus.
SYLWCH:
Dylai’r holl gofnodion fod yn hygyrch ac wedi’u trefnu fel ei bod yn glir pa fath o eitem a pha brawf / archwiliad / cynnal a chadw y cyfeirir ato yn y cofnod. Weithiau, bydd Dalen Arolygu / Llyfr Cofnodi ynghlwm wrth yr offer.
Lle bo dyfais neu system sy'n hanfodol i ddiogelwch wedi cael ei gosod, mae’n hanfodol bwysig ei bod yn cael ei gwirio i sicrhau ei bod yn parhau’n ddefnyddiol ac yn gallu cyflawni ei phwrpas priodol. Cadw cofnodion ar y gwiriadau hynny yw'r unig ffordd y gallwn brofi bod archwiliadau yn cael eu cynnal mewn gwirionedd.
Tabl Canllawiau: Enghreifftiau o Ddyfeisiau Diogelwch Critigol ac Archwilio a Phrofion Cysylltiedig
Gwybodaeth Bellach:
- Systemau Pwysedd a Silindrau
- Offer Labordy
- Diogelwch Laser
- Diogelwch Cerbydau
- Arolygiadau a Rhestrau Gwirio