Gweithio tu allan i oriau arferol
Mae'r Brifysgol yn deall bod yr amgylchedd addysgol / academaidd yn addas ar gyfer dyddiau gwaith hyblyg, er enghraifft:
- Staff academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig sy'n gweithio gyda'r nos neu ar benwythnosau i gynnal arbrofion, arsylwi ymchwil, paratoi ar gyfer darlithoedd a defnyddio cyfrifiaduron ac ati.
- Hwyluso Dyddiau Agored ac Ysgolion Haf ac ati.
- Llyfrgell ac Archifau yn agored yn hwyr y nos ac ar benwythnosau i gefnogi staff a myfyrwyr.
- Gwasanaethau Campws yn darparu Diogelwch 24/7, yn ychwanegol at staff sy'n cynnal a chadw’r ystâd, e.e. staff cynnal a chadw ar alwad a staff domestig sy'n glanhau.
- Gwasanaethau Masnachol yn darparu Mentoriaid Preswyl mewn Neuaddau, yn rheoli Canolfan Brailsford y tu allan i oriau arferol y Brifysgol ac yn darparu arlwyo mewn digwyddiadau.
Nid yw gweithio yn ystod cyfnodau y tu allan i'r diwrnod gwaith arferol fel rheol yn peri cynnydd mewn risg i iechyd a diogelwch. Fodd bynnag, weithiau, gall risgiau posibl gynyddu oherwydd cyfyngiadau ar systemau Prifysgol, Coleg ac Adrannol i ymdopi ag argyfwng, oherwydd diffyg rheolaeth neu oruchwylio gwaith. Gall hyn gynyddu'r siawns y bydd rhywbeth yn mynd o'i le neu faterion yn ymwneud â diogelwch personol os byddwch yn gweithio mewn mannau unig gyda'r nos. Y materion hyn, fel gyda phob risg i iechyd a diogelwch, y mae angen eu hystyried cyn caniatáu i aelod staff a / neu fyfyriwr weithio y tu allan i oriau arferol.
Cyfnod amser a nodir yn y Polisi:
Cynfod Amser A |
Cyfnod Amser B |
Dydd Llun i Dydd Gwnener, 18:00 – 22:00 |
Dydd Llun i Dydd Gwnener, 22:00 – 06:00 |
Dydd Llun i Dydd Gwnener, 06:00 – 08:00 |
Penwythnosau a Gwyliau Cyhoeddus / Prifysgol, 20:00 – 08:00 |
Penwythnosau a Gwyliau Cyhoeddus / Prifysgol, 08:00 – 20:00 |
|
Mae'r Safon Polisi a'r Daflen Wybodaeth wedi'u datblygu i roi arweiniad ymarferol i Golegau / Adrannau ar reoli'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â gweithio y tu allan i oriau arferol. Cysylltwch â'r Iechyd a Diogelwch os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch y pwnc hwn.