Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau
Mae yfed alcohol yn aml yn cael ei ystyried yn rhan o ddiwylliant Prydain ond gall fod yn fygythiad i iechyd o yfed mwy na faint a argymhellir. Gall gor-yfed arwain at broblemau iechyd corfforol, cymdeithasol a seicolegol. Ceir hefyd mwy o achosion o gamddefnyddio sylweddau yn y DU nag unrhyw wlad arall yn Ewrop. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall y broblem o ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon neu bresgripsiwn arwain at nifer o risgiau iechyd difrifol.
Mae'r daflen wybodaeth ganlynol yn rhoi arweiniad i golegau, gwasanaethau proffesiynol, staff ac eraill ar yr hyn a allai fod yn swyddogaeth ddiogelwch allweddol yn y brifysgol, a'r camau y gallent eu cymryd o ran yfed alcohol:
Isod ceir gwahanol ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau ac alcohol a'r mathau o gefnogaeth a ddarperir yn y brifysgol i'r aelodau staff hynny sy'n teimlo y gallai fod ganddynt broblem a’u bod angen help:
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
- Llwybrau at Iechyd - Yfed yn Synhwyrol
- Cwnsela Cyfrinachol
- Alcohol a Chyffuriau yn y Gwaith - HSE
- GIG Cymru - Alcohol
- GIG Cymru - Camddefnyddio Cyffuriau
Yn lleol, mae'r sefydliad elusennol CAIS yn helpu pobl sy'n gaeth i sylweddau, yn cael problemau iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth - yn ogystal â chynnig cymorth a gwybodaeth i'w teuluoedd a'u ffrindiau.
Am wybodaeth am weithio gyda chyffuriau yn y gweithle, cynnwyd Cytotoxic a Teratogenic, cyfeiriwch at safleoedd we COSHH a BIO-BERYGLON