Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau
Mae’r ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr ysgolion academaidd unigol. Am wybodaeth ynglŷn â bwrsariaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ôl-raddedigion ewch i’r tab ‘Allanol’ isod.
Gwobrau’r Prifysgol
Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan brifysgol sy'n rhoi pwyslais ar gymorth i fyfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr. Dyma'r bwrsariaethau a'r ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl gan brifysgol sy'n rhoi pwyslais mawr ar gymorth i fyfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig help ychwanegol i fyfyrwyr. Mae bwrsariaethau ac ysgoloriaethau sy'n werth dros £ 3.7M ar gael i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd.
Ewch i'n tudalen Cyllid Myfyrwyr i gael gwybodaeth am Ysgoloriaethau, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Prifysgol.
Wrth ymchwilio i sut i ariannu eich cwrs Ôl-raddedig, fe welwch fod yna ystod o gyllid ar gael. Rydym wedi llunio rhestr o'r opsiynau cyllido a ble i ddod o hyd i gefnogaeth.
Gwobrau Ysgolion
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau yn ein Hysgolion academaidd
Mae'r ysgolion academaidd canlynol hefyd yn cynnig ysgoloriaeth / bwrsariaethau.
Addysg a Datblygiad Dynol
Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon
Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae'r cynllun yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig mewn pynciau penodedig (pynciau â blaenoriaeth) fel eu bod yn cael manteisio ar y cymhelliant hwn. O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, rhaid i unigolyn fod â gradd 2.2 neu’n uwch, ac mai un o’r pynciau canlynol yw’r unig bwnc y mae’n ei astudio neu mai un o’r rhain y mae’n ei astudio’n bennaf:
- Bioleg
- Cemeg
- Cymraeg
- Dylunio a Thechnoleg
- Ffiseg
- Ieithoedd Tramor Modern
- Mathemateg
- Technoleg Gwybodaeth
Am fwy o wybodaeth: https://llyw.cymru/cymhelliant-addysg-gychwynnol-athrawon-ar-gyfer-pynciau-blaenoriaeth-canllawiau-i-fyfyrwyr-2022-i
Iaith Athrawon Yfory
Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn gymhelliant a delir i bobl gymwys sy'n cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig yng Nghymru sy'n eu galluogi i ddysgu trwy gyfrwng Cymraeg neu ddysgu Cymraeg fel pwnc.
Cyfanswm o £5000 ar gyfer athrawon dan hyfforddiant cymwys mewn dau randaliad:
i. £2,500 i bobl gymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC;
ii. £2,500 i bobl gymwys ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol uwchradd Gymraeg neu ddwyieithog neu ddysgu Cymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd yng Nghymru.
Am fanylion llawn: https://llyw.cymru/cynllun-cymhelliant-iaith-athrawon-yfory-arweiniad-i-fyfyrwyr-html
Cerddoriaeth a’r Cyfryngau
Bwrsariaethau i Ôl-raddedigion Cerddoriaeth
Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau nifer gyfyngedig o Fwrsariaethau Cerddoriaeth mewnol, sy'n agored i fyfyrwyr y DU, yr UE a thramor. Mae'r rhain yn amrywio o ran gwerth hyd at uchafswm o £1,000. Mae'r bwrsariaethau hyn ar gael ar sail gystadleuol. I wneud cais am fwrsariaeth, dylech uwchlwytho llythyr gyda'ch cais yn nodi pam yr hoffech gael eich ystyried. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â music.pg@bangor.ac.uk.
Bwrsariaethau Teithio Doethurol/ MPhil gan Ysgol Graddedigion CCD
Gall myfyrwyr ôl-raddedig MPhil a PhD yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau fod â hawl i wneud cais am fwrsariaeth deithio tra byddant yn gofrestredig, er mwyn mynd i gynhadledd academaidd neu ymweld ag archif/ llyfrgell academaidd berthnasol.
Asesir pob cais ar ei deilyngdod ei hun, ac ni fydd cyfanswm y fwrsariaeth/ bwrsariaethau a ddyfernir i unrhyw fyfyriwr ôl-raddedig unigol yn uwch na £150 o fewn unrhyw flwyddyn academaidd. Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau at weinyddwr y Coleg dros faterion ôl-radd.
Mathau eraill o gyllid
Mae gan yr Ysgol Cerddoriaeth hanes gwych o ran cael cyllid ar gyfer myfyrwyr ymchwil. Dros y blynyddoedd, rydym wedi ennill nifer o grantiau ar gyfer projectau ymchwil cydweithredol â phartneriaid allanol (cwmnïau, diwydiannau, cymdeithasau a cherddorfeydd) trwy KTP (Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth) a KESS (Ysgoloriaethau Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth).
Gall y Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedigion roi gwybodaeth ichi ynglŷn â’r rhain, ac am bosibiliadau eraill o ran cyllido.
Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig
Cymraeg
Ysgoloriaeth Ymchwil (PhD) y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2022, Prifysgol Bangor - 
Ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant caffael iaith yn y gweithle
Dysgu Cymraeg Gogledd-Orllewin, Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
Teitl: Ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant caffael iaith yn y gweithle
Mewn unrhyw weithle cawn enghreifftiau o unigolion yn dysgu’r Gymraeg yn arbennig o llwyddiannus ac weithiau mewn cyfnod byr iawn. Yn yr un modd, cawn achosion lle mae unigolion yn gweld y profiad o ddysgu Cymraeg yn fwy heriol. Nod yr ymchwil hwn fyddai adnabod nodweddion sy’n gysylltiedig â dysgu’r Gymraeg yn llwyddiannus ac â’r defnydd ohoni yn y gweithle. Ar yr un pryd, byddid yn edrych ar y nodweddion sy’n gysylltiedig ag unigolion yn y gweithle nad ydynt mor llwyddiannus wrth ddysgu’r Gymraeg a/neu ei defnyddio hi yn y gweithle.
Dyddiad dechrau: Hydref 2022
Hyd: 3 blynedd amser llawn (ystyrir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn dymuno derbyn yr ysgoloriaeth ar sail rhan amser)
Lleoliad: Bangor
Cyllid ar gyfer/Agored i: Myfyrwyr y DU, Myfyrwyr yr UE, Myfyrwyr Rhyngwladol
Swm cyllid: Ysgoloriaeth PhD 3 blynedd (£16,062 ar gyfer 2022/23) + cyllid ychwanegol o £500 er mwyn cefnogi gwaith maes, mynychu cynadleddau neu gyfrannu at gostau ymchwil eraill
Oriau: Llawn amser (oriau rhan-amser i fod yn ddim llai na 50%)
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12:00 pm ar 6 Gorffennaf 2022
Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl yn hanfodol
Gwybodaeth bellach am Ysgoloriaeth Ymchwil (PhD) y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2022
Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Mae'r Ysgol/Brifysgol yn cynnig y gwobrau canlynol i fyfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio ar unrhyw raglen ôl-radd hyfforddedig:
Mapio'r newidiadau sy’n digwydd i’r ymennydd sy'n dilyn anaf i nerfau'r llaw a'u harwyddocâd swyddogaethol.
Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi ei chyllido’n llawn
Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol; Prifysgol Bangor
Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022,
Goruchwyliwr: Dr Ken Valyear
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn amser am dair blynedd yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Caiff yr efrydiaeth
ei chyllido gan yr Ysgol gan dalu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, ynghyd â thâl cynhaliaeth (tua £16,062 y flwyddyn am 3 blynedd) yn ogystal â lwfans ymchwil hael o hyd at £750. Gall yr efrydiaeth ddechrau unrhyw bryd rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, ond 1 Hydref fyddai’r dyddiad dechrau delfrydol i ni.
*rydym yn y broses o greu fersiwn hygyrch o’r ddogfen yma
Canfyddiad 3D wrth heneiddio
Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi ei chyllido’n llawn (gan yr ysgol)
Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol; Prifysgol Bangor
Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022
Ayelet Sapir
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser am dair blynedd wedi ei chyllido’n llawn gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r efrydiaeth yn talu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, ynghyd â tâl cynhaliaeth (tua £16,062 y flwyddyn am 3 blynedd) yn ogystal â lwfans ymchwil hael o hyd at £750. Gall yr efrydiaeth ddechrau unrhyw bryd rhwng mis Awst 2022 a mis Ionawr 2023, ond 1 Hydref fyddai’r dyddiad dechrau delfrydol i ni.
Mwy o wybodaeth am Efrydiaeth Canfyddiad 3D wrth heneiddio
*rydym yn y broses o greu fersiwn hygyrch o’r ddogfen yma
Psychophysiology of human performance and learning
Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi ei chyllido’n llawn
Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol; Prifysgol Bangor
Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022
Goruchwyliwr:Dr Germano Gallicchio
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn amser am dair blynedd yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Caiff yr efrydiaeth
ei chyllido gan yr Ysgol gan dalu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, ynghyd â thâl cynhaliaeth (tua £16,062 y flwyddyn am 3 blynedd) yn ogystal â lwfans ymchwil hael. Gall yr efrydiaeth ddechrau unrhyw bryd rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, ond 1 Hydref fyddai’r dyddiad dechrau delfrydol i ni.
Mwy o wybodaeth am Efrydiaeth Psychophysiology of human performance and learning.
*rydym yn y broses o greu fersiwn hygyrch o’r ddogfen yma
Gwobr Cynhadledd Ymchwil Jeremy Howell
Fel adran ymchwil sydd ymysg y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig, yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol neu gyda'r gorau yn y byd (REF 2014), rydym yn awyddus iawn i wobrwyo rhagoriaeth ymchwil. Rydym yn hynod falch o gynnig gwobr ariannol i un myfyriwr Meistr llwyddiannus tuag at gyflwyno eu project ymchwil/traethawd hir MSc mewn cynhadledd academaidd o'u dewis.
Mae'r wobr yn cynnig hyd at £1000 i'r myfyriwr sy'n graddio o'n rhaglen MSc â'r marciau uchaf am eu project ymchwil/traethawd hir i gyflwyno eu project ymchwil/traethawd hir MSc mewn cynhadledd academaidd o'u dewis. Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y wobr, rhaid i'r ymgeiswyr wneud cais yn ystod cyfnod eu hastudiaethau Meistr ym Mangor, trwy gwblhau cais proforma un dudalen yn rhoi manylion am deitl eu project ymchwil/traethawd hir, trosolwg o'r project ymchwil/traethawd hir, a'r gynhadledd yr hoffent gyflwyno ynddi. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 1 Awst yn ystod blwyddyn raddio MSc yr ymgeisydd. Gwneir penderfyniad terfynol am yr ymgeisydd llwyddiannus yn ein byrddau arholi a chyflwynir y wobr i'r myfyriwr llwyddiannus yn ein seremoni raddio Meistr. Yn achos dau farc cyfartal, caiff y wobr ei dyfarnu i'r myfyriwr Meistr sydd â'r marciau gradd uchaf yn gyffredinol. Ni fydd unigolion nad ydynt yn cyflwyno cais yn cael eu hystyried ar gyfer y wobr. Rhaid i'r project/traethawd hir sydd i'w gyflwyno yn y gynhadledd a ddewisir fod wedi'i gwblhau yma yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn ystod blwyddyn astudiaethau Meistr yr ymgeisydd. Mae'r wobr yn cynnwys cefnogaeth ariannol (hyd at uchafswm o £1000) tuag at gofrestru i'r gynhadledd, hedfan, llety a chynhaliaeth.
Cynorthwywyr Graddedig
Gall holl ymgeiswyr ôl-radd hyfforddedig (Cartref/UE/Rhyngwladol, llawn-amser a rhan-amser) wneud cais i ddod yn Gynorthwywyr Graddedig. Mae Cynorthwywyr Graddedig yn gweithio gyda staff academaidd am hyd at 60 awr bob blwyddyn academaidd mewn amrywiaeth o weithgareddau addysgu, dysgu ac asesu i gefnogi dysgu myfyrwyr israddedig. Telir tâl am y gwaith yn fisol (tua £55 y mis).
Pam y dylech wneud cais i fod yn Gynorthwywr?
Mae rhaglenni ôl-radd SHES yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr yn y maes o’u dewis, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy, a dull gweithredu annibynnol sy’n eu paratoi’n dda at yr yrfa o’u dewis. Mae swyddi cynorthwywyr graddedig yn galluogi myfyrwyr i roi eu dysgu ar waith drwy gefnogi gweithgareddau’r ysgol. Mae o gymorth i ddatblygu eu sgiliau cefnogi personol a bydd yn cyfoethogi eu CVs gyda phrofiad uniongyrchol a fydd o fudd iddynt gael swyddi yn y dyfodol.
Mae Cynorthwywyr Graddedig o’r Ysgol wedi mynd ymlaen i weithio fel darlithwyr a chynorthwywyr ymchwil mewn AB/AU, athrawon, ffisiotherapyddion ac arbenigwyr ymarferion adferiad, hyfforddwyr/tywyswyr awyr agored a pharafeddygon.
Beth a ddisgwylir gan Gynorthwywr?
Mae’r gweithgareddau y bydd Cynorthwywyr Graddedig yn ymwneud â hwy yn cynnwys cefnogi darlithoedd, arwain seminarau, rhoi cefnogaeth diwtoraidd, arddangos mewn dosbarthiadau ymarferol, marcio asesiadau israddedigion, goruchwylio mewn arholiadau ailsefyll i israddedigion.
Disgwylir i Gynorthwywyr Graddedig baratoi at bob sesiwn drwy ymgyfarwyddo â’r gwaith darllen craidd a sicrhau bod ganddynt y gallu i osod y deunydd o fewn cyd-destun ehangach y modiwl yn gyffredinol, a’r ddarlith sy’n gysylltiedig â’r seminar yn neilltuol. I’r diben hwn gall dod i’r darlithoedd fod yn hynod fuddiol, er na thelir am hynny ac nad yw’n orfodol.
Proses Ymgeisio – Dylai ymgeiswyr anfon Curriculum Vitae a llythyr eglurhaol, (yn ddelfrydol gan gyflogwr diweddar ond mae geirda academaidd yn dderbyniol), yn nodi eu haddasrwydd i weithredu fel Cynorthwywr, at: Dr Ant Blanchfield a.w.blanchfield@bangor.ac.uk erbyn dyddiad cau diwedd yr Wythnos Groeso bob blwyddyn.
Mae’r drefn ddewis yn un gystadleuol a gall gynnwys cyfweliad a fydd yn ystod wythnosau cyntaf semester 1. Cysylltwch â Dr Blanchfield i gael mwy o wybodaeth.
Gwyddorau Iechyd
Gwyddorau Meddygol
Nid oes ysgoloriaethau ar gael ar hyn o bryd.
Gwyddorau Naturiol
Gweler y dudalen Saesneg am y wybodaeth diweddaraf ynglyn a'r ysgoloriaethau sydd ar gael yn yr Ysgol.
Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
Nid oes ysgoloriaethau ar gael ar hyn o bryd.
Seicoleg
Mapio'r newidiadau sy’n digwydd i’r ymennydd sy'n dilyn anaf i nerfau'r llaw a'u harwyddocâd swyddogaethol.
Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi ei chyllido’n llawn
Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol; Prifysgol Bangor
Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022,
Goruchwyliwr: Dr Ken Valyear
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn amser am dair blynedd yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Caiff yr efrydiaeth
ei chyllido gan yr Ysgol gan dalu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, ynghyd â thâl cynhaliaeth (tua £16,062 y flwyddyn am 3 blynedd) yn ogystal â lwfans ymchwil hael o hyd at £750. Gall yr efrydiaeth ddechrau unrhyw bryd rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, ond 1 Hydref fyddai’r dyddiad dechrau delfrydol i ni.
*rydym yn y broses o greu fersiwn hygyrch o’r ddogfen yma
Canfyddiad 3D wrth heneiddio
Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi ei chyllido’n llawn (gan yr ysgol)
Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol; Prifysgol Bangor
Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022
Ayelet Sapir
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser am dair blynedd wedi ei chyllido’n llawn gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r efrydiaeth yn talu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, ynghyd â tâl cynhaliaeth (tua £16,062 y flwyddyn am 3 blynedd) yn ogystal â lwfans ymchwil hael o hyd at £750. Gall yr efrydiaeth ddechrau unrhyw bryd rhwng mis Awst 2022 a mis Ionawr 2023, ond 1 Hydref fyddai’r dyddiad dechrau delfrydol i ni.
Mwy o wybodaeth am Efrydiaeth Canfyddiad 3D wrth heneiddio
*rydym yn y broses o greu fersiwn hygyrch o’r ddogfen yma
Psychophysiology of human performance and learning
Efrydiaeth PhD 3 blynedd wedi ei chyllido’n llawn
Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol; Prifysgol Bangor
Dyddiad cau: 4 Gorffennaf 2022
Goruchwyliwr:Dr Germano Gallicchio
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn amser am dair blynedd yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Bangor. Caiff yr efrydiaeth
ei chyllido gan yr Ysgol gan dalu cost lawn ffioedd dysgu myfyrwyr PhD, ynghyd â thâl cynhaliaeth (tua £16,062 y flwyddyn am 3 blynedd) yn ogystal â lwfans ymchwil hael. Gall yr efrydiaeth ddechrau unrhyw bryd rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, ond 1 Hydref fyddai’r dyddiad dechrau delfrydol i ni.
Mwy o wybodaeth am Efrydiaeth Psychophysiology of human performance and learning.
*rydym yn y broses o greu fersiwn hygyrch o’r ddogfen yma
Y Gyfraith
Gwobr Teyrngarwch
Bydd graddedigion o Fangor sy'n dechrau cwrs gradd meistr llawn amser ym Mhrifysgol Bangor yn awtomatig yn cael disgownt o £500 oddi ar y ffioedd dysgu.
Ewch i dudalennau Prifysgol Bangor am wybodaeth am ragor o gyfleoedd ariannu Ôl-raddedig.
Ariannu Strwythurol
Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2)
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn darparu cyfleoedd ar gyfer astudiaeth PhD ac Ymchwil Meistr wedi’i gyllido mewn cydweithrediad â busnes neu bartner gwmni gweithredol. Fe’i hariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, a arweinir gan Brifysgol Bangor.
Ysgoloriaethau ar gael yma.
Allanol
Bwrsariaeth ‘Leverhulme Trade Charities Trust’
Mwy o wybodaeth ar gael yma
FindaMasters.com Ysgoloriaeth
Mae FindaMasters.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaMasters.com. Cofrestrwch yma.
FindaPhD.com Ysgoloriaeth
Mae FindaPhD.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaPhD.com. Cofrestrwch yma.
Ymholiadau am Astudio Ol-radd ym Mangor
- Gwybodaeth ar Gyfer Darpar Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd-
- Cyfarwyddwyr Astudiaethau Ôl-radd yr Ysgolion
- Cyllid Myfyrwyr
- Canolfan Gyrfaoedd a Chyfleoedd
- Gwasanaethau Myfyrwyr
Cyrsiau Wedi'u Hariannu
Mae nifer o gyfleoedd ariannu ar gael. Cysylltwch â'r ysgol academaidd i wybod mwy am y cyllid sydd ar gael.
Cofiwch bod rhai ysgolion academaidd hefyd yn cynnig ysgloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eu pynciau. Ewch i'r dudalen ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau neu dudalennau'r ysgolion academaidd i gael mwy o wybodaeth.
Ysgoloriaethau a Gwaddoliadau
- Ysgoloriaethau Myfyrwyr Pantyfedwen
- British Council
- British Council
- Chevening Scholarships
- Commonwealth Scholarship Commission
- Mantais - Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg.
- Nuffield Foundation - Undergraduate Research Bursaries
- PhD Fellowships for eligible registered health professionals.
Benthyciadau
Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd
Mae’r Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd yn ymwneud â ffynonellau amgen o gyllid – yn enwedig elusennau – a all ddyfarnu cyllid (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, beth bynnag a fo ei (d)dinasyddiaeth.
Mae’r Arweiniad Amgen Ar-lein â chronfa ddata enfawr o gyfleoedd i gael cyllid, arweiniad cynhwysfawr ac offer niferus i’ch helpu i baratoi cais sy’n mynd i ennill grant ichi. I gynorthwyo ein myfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi prynu trwydded ar gyfer yr Arweiniad, fel ei fod am ddim i holl fyfyrwyr a staff Bangor ei ddefnyddio! Mewngofnodwch Yn Awr!
Os ydych yn ddarpar-fyfyriwr ac wedi gwneud cais i ddod i Brifysgol Bangor, anfonwch e-bost er mwyn cael PIN mynediad.
PostgraduateStudentships.co.uk
- Gwefan yw PostgraduateStudentships.co.uk sy'n dod â'r holl wahanol fathau o gyllid sydd ar gael i ddarpar ôlraddedigion at ei gilydd mewn un lle. Felly, gellwch weld beth sydd ar gael o ffynonellau cyffredinol, yn ogystal â chyfleoedd a chyllid o'r brifysgol ei hun.