Cefnogaeth i Fyfyrwyr
Rydym yn falch o’r gefnogaeth rydym yn cynnig i fyfyrwyr. O’r amser rydych yn cyrraedd, cewch gefnogaeth ar faterion iechyd a lles yn ogystal â’ch gwaith academaidd. Darllenwch fwy am foddhad myfyrwyr Bangor a’r profiad o fyw ac astudio yma.
Sut rydym yn helpu...
Cewch gefnogaeth o’ch diwrnod cyntaf nes eich diwrnod graddio.
Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae ein Canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu cyngor arbenigol ar amryw o bethau, megis materion ariannol, dyslecsia, cymorth anabledd, cwnsela, iechyd meddwl, sgiliau astudio a chyngor ar lety preifat.
Arweinwyr Cyfoed
Cyn i chi gyrraedd Bangor, bydd eich Arweinydd Cyfoed yn cysylltu â chi. Mae Arweinwyr Cyfoed yn fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn sy’n cynnig cymorth i fyfyrwyr newydd. Maent yn helpu i chi ddod o hyd i lefydd yn y Brifysgol ac o gwmpas Bangor, yn mynd a chi ar nosweithiau allan ac yn helpu i chi ymgartrefu.
Tiwtoriaid Personol
Mae gan bob myfyriwr Diwtor Personol sy’n aelod o staff academaidd sy’n rhoi arweiniad ar faterion academaidd. Gallwch droi at eich Tiwtor Personol ar unrhyw adeg.
Adnoddau Dysgu
Mae gan y Brifysgol ystod drawiadol o adnoddau, gan gynnwys casgliad helaeth o lyfrau a chyfnodolion dysgu; dros 1,000 o gyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr, nifer o ystafelloedd mynediad PC 24 awr, mannau dysgu cymdeithasol, ei llong ymchwil ei hun y ‘Prince Madog’, labordai gwyddoniaeth a Sganiwr fMRI.
Mwy o wybodaeth am ein hadnoddau dysgu ac addysgu.