Astudio ym Mangor
Cymorth i Fyfyrwyr
Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr.
Mae ein cynllun Arweinwyr Cyfoed a’r system Tiwtor Personol yn golygu bod yna bob amser fyfyriwr neu aelod o staff yno ar eich cyfer.
Mae ein Canolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu gwasanaethau cymorth proffesiynol, sy’n cynnwys iechyd a lles, dyslecsia, anabledd a sgiliau astudio.
Ewch i wefan Gwasanaethau Myfyrwyr am fwy o wybodaeth.
Adnoddau dysgu
Mae gan y Brifysgol ystod drawiadol o adnoddau, gan gynnwys casgliad helaeth o lyfrau a chyfnodolion dysgu; dros 1,000 o gyfrifiaduron at ddefnydd myfyrwyr, nifer o ystafelloedd PC mynediad 24 awr, mannau dysgu cymdeithasol, llong ymchwil ‘The Prince Madog’, labordai o’r radd flaenaf ynghyd â Sganiwr fMRI.
Mwy o wybodaeth am ein adnoddau addysgu a dysgu.
Astudio dramor – Cyfle unigryw!
Mae astudio neu weithio dramor fel rhan o’ch gradd yn gyfle rhy dda i’w golli.
Mae ein rhaglenni astudio dramor yn rhoi cyfle i chi wneud y gorau o’ch profiad astudio. Gallai Astudio ym Mangor yn mynd â chi i Ewrop a thu hwnt!
- Astudio yn Ewrop
- Gweithio yn Ewrop
- Cyfnewid Worldwide – ewch i Canada, Tsieina, De Korea neu’r UDA
Mwy o wybodaeth am ein rhaglenni astudio dramor…
Myfyrwyr hŷn
Rydym yn gwerthfawrogi bod myfyrwyr aeddfed ychydig yn wahanol i fyfyrwyr sy’n cyrraedd y Brifysgol yn syth o’r ysgol, a gall y modd yr ydych yn trin bywyd coleg fod yn wahanol.
Cymerwch olwg ar ein tudalennau Myfyrwyr Hŷn am wybodaeth am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael.