Pa gymorth sydd ar gael?
Uned Datblygu Gyrfaoedd y Brifysgol
Mae’r Uned Datblygu Gyrfaoedd y Brifysgol (www.bangor.ac.uk/careers) yn cynnig arweiniad a chymorth. Os ydych chi ar eich blwyddyn olaf ac eisiau help yn chwilio am waith neu os ydych yn fyfyriwr flwyddyn gyntaf eisiau gwaith dros yr haf, bydd yr uned yn cynnig cymorth o’r radd flaenaf. Mae’r cymorth hwn yn cael ei ddarparu fel a ganlyn:
Cyfarwyddyd/Arweiniad - ar gynllunio ymlaen, gwneud dewisiadau, astudiaethau ôl-raddedig, chwilio am waith (e.e. llunio CV neu lenwi ffurflenni cais) a dod o hyd i waith tymhorol. Mae gwasanaeth galw heibio ar gael ar gyfer ymholiadau sydyn fel gwirio CV. Os yw’n well gennych, gallwch drefnu i weld un o’n ymgynghorwyr gyrfa ar sail un wrth un.
Gweithdai a Seminarau - mae'r rhain yn cyffwrdd ystod eang o bynciau gan gynnwys paratoi at gyfweliadau a sgiliau cyflwyno. Gallwch hefyd eistedd prawf dawn sydd yn debyg i’r rhai sydd yn cael eu rhedeg gan gyflogwyr a chewch adborth ar eich canlyniadau. Archebwch y prawf yn y dderbynfa.
Mae’r gweithdai hefyd yn darparu gwybodaeth ar beth mae ein graddedigion yn ei wneud, cyflogwyr a chyfleoedd, astudiaethau a chyllid ôl-raddedig, gwaith gwirfoddoli, cyfleoedd tramor, blwyddyn i ffwrdd a chyfle i nôl llenyddiaeth.
Cyfrifiaduron - gallwch ddefnyddio ein rhaglen ryngweithiol POSPECTS PLANNER fel cam cyntaf i gynllunio eich gyrfa a dod o hyd i waith. Mae gennym hefyd cronfa ddata o gyflogwyr a chronfa ddata o gyrsiau yn ogystal â mynediad i’r rhyngrwyd.
Cymorth wrth ddod o hyd i waith:
- manylion o ymweliadau i Fangor gan gyflogwyr
- gwybodaeth am gyfleoedd ; bwletin cyfleoedd cyfredol a dyfodol
- gwybodaeth ar gyfer graddedigion sy’n chwilio am waith
- llawlyfrau, fideos, gwefannau a ffeiliau am gyflogwyr
- ffair yrfaoedd a chyflwyniadau
Mae’r cyfleusterau ar gael yma i chi fel myfyriwr ym Mangor ond ni fyddwch ar ben eich hun ar ôl graddio chwaith. Mae’r Uned yn eich annog i gadw mewn cysylltiad hyd yn oed ar ôl i chi adael.