Cyrsiau Ôl-radd
Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy (MSc/MA)
Disgrifiad
- Diddordeb yn ein dyfodol?
- Wedi graddio'n ddiweddar?
- Profiad eang o waith perthnasol?
- Angen hwb i'ch gyrfa?
- Am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg?
Mae’r cwrs meistr cyfrwng Cymraeg unigryw hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb gwirioneddol mewn datblygiad cynaliadwy a materion amgylcheddol.
Mae galw cynyddol gan gyflogwyr yng Nghymru am bobl sydd nid yn unig gyda’r cymwysterau amgylcheddol perthnasol, ond sydd hefyd yn gallu trin a thrafod y maes allweddol hwn trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wir, mae meithrin a datblygu staff dwyieithog proffesiynol yn flaenoriaeth iddynt ac mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes allweddol hwn.
Gallwch hefyd ddarllen manylion y cwrs ar y daflen yma.
Strwythur y cwrs
Dysgir y cwrs mewn dwy ran:
Rhan Un: Cynhelir Rhan Un o Fedi i Fehefin. Ceir rhaglen ddiddorol o fodiwlau gan gynnwys lleoliadau proffesiynol a gwaith maes ymarferol. Hefyd ceir modiwl unigryw fydd yn datblygu sgiliau Cymraeg, yn arbennig i weithwyr yn y maes amgylcheddol, yn ogystal â methodoleg ymchwil fydd yn eich paratoi ar gyfer traethawd hir. Rhaid cwblhau Rhan Un yn llwyddiannus cyn mynd ymlaen i Ran Dau.
Rhan Dau: Cynhelir y rhan yma o'r cwrs o Fehefin i Fedi a byddwch yn ymgymryd â phroject ymchwil a gyflwynir ar ffurf traethawd hir. Byddwch yn penderfynu ar broject o'ch dewis ac yna cytunir ar y testun gyda'ch goruchwyliwr. Gall yr ymchwil fod yn berthnasol i unrhyw faes o reolaeth amgylcheddol gynaliadwy. Bydd maes ymchwil penodol y traethawd hir yn penderfynu ai gradd MSc neu MA fydd yn cael ei dyfarnu i chi ar ddiwedd y cwrs.
Modiwlau Rhan Un
- Cysyniadau Datblygiad Cynaliadwy
Mae’r modiwl hwn yn rhoi sylfaen gadarn o’r cysyniadau allweddol sy’n gysylltiedig â datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys yr elfennau amgylcheddol, economeg a chymdeithasol. Byddwn yn ystyried cynaladwyedd mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig, yn ogystal â’r elfen ryngwladol, gan gynnwys astudio polisïau a deddfwriaeth lywodraethol. Bydd nifer o arbenigwyr proffesiynol allanol yn cyfrannu’n helaeth tuag at y modiwl. - Rheolaeth Cefn Gwlad
Yn y modiwl hwn byddwn yn astudio elfennau o ddefnydd tir, cadwraeth, datblygiad cymunedol, amaethyddiaeth, coedwigaeth, cynllunio, ynni amgen, twristiaeth gynaliadwy a hamdden. Bydd cyfleoedd arbennig ar gyfer gwaith maes ymarferol, gan gynnwys ymweliadau i Eryri ac Ynys Môn. Byddwn yn astudio projectau sy’n ymwneud â datblygu cefn gwlad cynaliadwy a cheir cyfraniadau pwysig gan nifer o’r asiantaethau amgylcheddol, cyrff gwirfoddol, awdurdodau lleol, busnesau a grwpiau cymunedol. - Strategic Environmental Management
Mae’r modiwl cyfrwng Saesneg yma yn datblygu eich dealltwriaeth o ddatblygu cynaliadwy, cyfraith amgylcheddol, archwilio ac asesu amgylcheddol yn ogystal â datblygiad o dechnoleg wyrdd. Mae’r modiwl wedi ei achredu gan Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (IEMA) ac ar orffen y modiwl yn llwyddiannus mae posib ymaelodi fel aelod cysylltiol o’r sefydliad (aelodaeth AIEMA). - Gwaith Maes
Mae rhaglen flynyddol cyfrwng Saesneg o ymweliadau maes sy’n gysylltiedig â chadwraeth a rheoli tir. Bwriad yr ymweliadau fyddi astudio ystod eang o wahanol sefydliadau cadwraeth a dysgu am y gwahanol weithgareddau maent yn eu defnyddio i gyrraedd eu nodau unigol. Yn y gorffennol rydym wedi ymweld a safleoedd preifat, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau natur a safleoedd cymunedol. - Ymdrin â'ch pwnc yn y Gymraeg
Modiwl arbennig ar gyfer gweithwyr ym maes yr amgylchedd fydd yn datblygu sgiliau cyfathrebu yn yr iaith Gymraeg. Mae’r modiwl yma’n cael ei ddarparu gan arbenigwyr o Ganolfan Bedwyr ac mae wedi ei gynllunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr y cwrs meistr. Pwrpas y modiwl yw meithrin hyder unigolion ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg yn y maes amgylcheddol, nid yn unig o safbwynt academaidd ond yn enwedig ar gyfer sefyllfaoedd proffesiynol ac yn y gweithle. - Research Methods
Mae’r modiwl cyfrwng Saesneg yma yn eich paratoi ar gyfer y cyfnod ymchwil a thraethawd hir o’r cwrs. Cewch ddysgu am gysyniadau o ddatblygu damcaniaeth, samplu, cynllunio astudiaeth, dulliau gofodol, dulliau ymchwil cymdeithasol, methodoleg ansoddol a meintiol, a chyflwyno canfyddiadau ymchwil. Mae cyfuniad o waith maes ac astudiaethau ymarferol yn sylfaen i’r dysgu arferol. Mae’r modiwl yn cael ei gyflwyno mewn 2 ran, mae elfen addysgol yn semester 1 a chyfnod o gynllunio prosiect yn yr ail semester sy’n dilyn ymlaen at y cyfnod ymchwil a’r traethawd hir. - Lleoliad Gwaith Proffesiynol
Mae hwn yn fodiwl allweddol i’r cwrs ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad proffesiynol gyda chorff neu fudiad amgylcheddol perthnasol i’ch diddordebau. Cynhelir y lleoliad pedair wythnos ar ddiwedd Rhan Un yn ystod Mai a Mehefin. Cyfrifoldeb y myfyrwyr eu hunain, gydag arweiniad adrannol, yw trefnu’r lleoliad ymlaen llaw ac mae cyfleoedd gwych ar gael mewn awdurdodau lleol, cyrff amgylcheddol, busnesau, grwpiau cymunedol a’r sector wirfoddol. Un o fanteision amlwg y lleoliad yw ehangu gorwelion a phrofiadau gyda darpar gyflogwyr a fydd o gymorth mawr wrth ymgeisio am swyddi a datblygu gyrfa yn y maes.
Cyfleoedd Gwaith a Datblygiad Gyrfaol
Un o brif amcanion y cwrs meistr arbennig hwn yw ymateb i’r galw cynyddol sydd ymysg cyflogwyr yng Nghymru am unigolion gyda’r cefndir academaidd perthnasol a hefyd y sgiliau a’r hyder i gyfathrebu’n effeithiol mewn sefyllfaoedd dwyieithog.
Mae gwir angen staff dwyieithog mewn awdurdodau lleol, adrannau cynllunio ac ym myd busnes a’r sector breifat. Rhai o’r prif gyflogwyr yw’r cyrff amgylcheddol statudol a’r sector wirfoddol, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, Y Parciau Cenedlaethol, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. Mae cyfleoedd hefyd yn y maes ymgynghorol, byd addysg a diwydiant.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn arbennig o addas ar gyfer unigolion sydd yn ystyried newid cyfeiriad neu sydd eisoes mewn swydd berthnasol ac sy’n awyddus i ehangu eu gorwelion. Mae’n bosib dilyn y cwrs yn llawn amser, neu’n rhan amser fel rhan o ddatblygiad proffesiynol mewn swydd.
Gwneud Cais
Gellir cael manylion ar sut i wneud cais, a hefyd wybodaeth am ffioedd, gan Y Gofrestra Academaidd, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, neu ewch i'r wefan ganlynol: www.bangor.ac.uk
Cymorth Ariannol
Mae cymorth ariannol penodol ar gael ar gyfer astudio drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys:
- Ysgoloriaethau Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Bwrsariaeth Prifysgol Bangor.
Cysylltwch â Paula Roberts, cyfarwyddwr y cwrs, am fanylion pellach: e-bost: p.roberts@bangor.ac.uk
Cefnogir y cwrs gan:
Manylion pellach
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r canlynol yn Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2UW.
Paula Roberts, Cymrawd Dysgu Cyfrwng Cymraeg
Ffon: +44 (0) 1248 382976
e-bost: p.roberts@bangor.ac.uk
Meryl Furlong, Gweinyddwr Cyrsiau Meistr
Ffon: +44 (0) 1248 383708
e-bost: m.furlong@bangor.ac.uk
Neu ewch at ein gwefan:
www.bangor.ac.uk neu www.bangor.ac.uk/senr
Cymhwyster
MSc/MA
Hyd
Mae’r cwrs ar gael yn llawn amser dros flwyddyn neu’n rhan amser dros ddwy flynedd.
Mynediad
Dylai bod gan ymgeiswyr radd Dosbarth 2(ii), neu uwch, mewn maes perthnasol. Derbynnir ceisiadau hefyd gan ymgeiswyr gyda chefndir mewn meysydd eraill ond sydd â gwir ymroddiad a diddordeb mewn astudio’r pwnc.
Hefyd byddwn yn derbyn ymgeiswyr sydd heb radd ond sydd â phrofiad eang o waith perthnasol ac sy’n awyddus i ddatblygu neu newid gyrfa.