Coedwigwyr Bangor yn Alpau'r Eidal
Cafodd graddedigion a myfyrwyr coedwigaeth Prifysgol Bangor brofiad o reoli coedwigoedd alpaidd o safon uchel ar ymweliad â rhanbarth Piedmont yn yr Eidal ar daith astudio dramor.
Bu taith gyfunol Grŵp Coedwigaeth Gorchudd Di-dor / Pro Silva Iwerddon yn canolbwyntio ar goedwriaeth serth yn yr Alpau ac fe'i cynhaliwyd gan Pro Silva yr Eidal.
Roedd tua 10 o'r 30 a fu ar y daith astudio'n fyfyrwyr cyfredol neu'n gyn-fyfyrwyr coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn hanu o'r Deyrnas Unedig, Iwerddon, Denmarc a Seland Newydd. Ymhlith cyn-fyfyrwyr Bangor roedd coedwigwyr preifat, coedwigwyr y Comisiwn Coedwigaeth a choedwigwyr gwladwriaeth Iwerddon.
Ymwelodd y daith â nifer o safleoedd yn Piedmont a Dyffryn Aosta lle defnyddir arferion coedwriaeth gorchudd di-dor i ddarparu amryw o wasanaethau ar dir serth iawn.
Mewn system o goed llarwydd/porfa goediog roedd y gwartheg yn pori o dan goed aeddfed ond caent eu cau allan o'r ardaloedd lle'r oedd y coed yn adfywio'n naturiol, er mwyn i'r rheiny gael tyfu i'w llawn dwf heb ddim anifeiliaid yn pori. Mae'r goedwig hefyd yn gwarchod y pentrefi islaw rhag tirlithriadau ac mae yno rediadau sgïo yn y gaeaf a llwybrau beicio mynydd yn yr haf.
Creodd y dechneg gryn argraff ar gyn-fyfyriwr dysgu o bell MSc coedwigaeth Prifysgol Bangor, Jonathan Spazzi, sy'n goedwigwr wrth ei alwedigaeth ac yn aelod o Pro Silva Iwerdon.
“Roedd hi'n braf gweld technegau rheoli coedwigoedd traddodiadol yn fyw ac yn llwyddo ac yn rhan o'r gymdeithas fodern a choedwriaeth fodern,” meddai.
Dywedodd Sean Hoskins, dysgwr o bell MSc coedwigaeth cyfredol ym Mhrifysgol Bangor, ei bod hi'n wych gweld cymaint o goedwigwyr Bangor ar y daith:
“Mae'n brawf o safon ac enw da rhaglenni meistr coedwigaeth Prifysgol Bangor bod cymaint o fyfyrwyr blaenorol a phresennol wedi dod ar y daith i ddysgu am y math o systemau coedwigaeth arloesol a fydd yn dod yn fwyfwy pwysig yng nghyfnod y newid yn yr hinsawdd.”
Dywedodd James Walmsley, Darlithydd mewn Coedwigaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol:
“Mae cymaint o gyfleoedd i fyfyrwyr coedwigaeth wella eu dysgu a'u profiad. Rwyf wrth fy modd bod y myfyrwyr presennol a'r cyn-fyfyrwyr wedi gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfle arbennig hwn i deithio i'r Alpau. Rhaid cyfaddef rwy'n genfigennus iawn!
Mae Prifysgol Bangor ymhlith y pum lle gorau yn y DU i astudio Coedwigaeth, yn ôl Tablau Cynghrair Prifysgol 2020 y Guardian.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2019