Diwrnod Lemur y Byd
Dathlwyd Diwrnod Lemur y Byd am y tro cyntaf erioed ddoe. Ymunodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor â'r Sw Fynydd Cymreig i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer cadwraeth Lemur ym Madagascar. Mae gan Brifysgol Bangor gysylltiadau agos â'r goedwig law Mangabe yn nwyrain Madagascar. Mae'r ardal a ddiogelir newydd yn cael ei reoli gan y NGO Madagasikara Voakajy; mae nifer o’u staff wedi cael hyfforddiant ym Mangor. Er enghraifft, rheolwr y prosiect Mangabe Voahirana Randriamamonjy, astudiodd MSc mewn cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor ag ariennir gan Fenter Darwin gan lywodraeth y DU.
Gwisgodd y myfyrwyr cynffonnau streipïog Lemur ac fe wnaethon drefnu paentio wynebau fel lemur, helfa drysor a chystadleuaeth lliwio. Roedden nhw hefyd wrth law i ateb cwestiynau’r cyhoedd am gadwraeth Lemur yn y lloc 'cwrdd â'r lemurs'.
Dywed Julie Razafimanahaka, cyfarwyddwr Madagasikara Voakajy ym Madagascar: "Rydym yn falch iawn o gael cymorth Y Sw Fynydd Cymreig yn ein hymdrechion i amddiffyn y lemuriaid yng Nhoedwigoedd Mangabe ym Madagascar. Mae'n fendigedig bod pobol yng Nghymru yn gallu dysgu am ein gwaith, cyfrannu at ein hachos a chael diwrnod hwylus."
Dywed Voahirana Randriamamonjy, cyfarwyddwr y prosiect Mangabe: "Astudiais cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor felly mae'n braf fod y disgyblion presennol yn cadw'r cysylltiadau sefydlais rhwng Y Sŵ Mynydd Cymreig a Madagascar ac yn trefnu'r digwyddiad anhygoel yma i addysgu'r plant am ryfeddodau bywyd gwyllt Madagascar."
Casglwyd £140 tuag at gadwraeth lemur yn ystod y diwrnod.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2014