Ymchwil ecolegol hir dymor
Mae gan yr Ysgol bortffolio helaeth o safleoedd ecolegol hir dymor yng nghyffiniau Bangor ac o amgylch y byd. Bwriad y rhain yw monitro deinameg hir dymor ecosystemau (naturiol ac wedi’u haddasu gan newid hinsawdd, llygredd a ffactorau eraill), yn ogystal ag effeithiau triniaethau arbrofol.
Maent yn adnodd gwerthfawr ar gyfer ymchwil amgylcheddol yn y dyfodol.
I grynhoi:
-
Coedwigoedd naturiol
- 27 o leiniau sampl coedwig a 26 o leiniau bylchau coed wedi syrthio yng Nghoed Dolgarrog (Gwarchodfa Natur Genedlaethol fwyaf a mwyaf amrywiol Cymru); fe'u sefydlwyd yn 1998 a 2000, ac fe'u cynhelir mewn cydweithrediad â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
- Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Aber, sy’n rhan o Ganolfan Rheoli Bryndir ac Uwchdir SENRGY, yn gynefin pwysig i rywogaethau cen, pryfetach ac adar. Mae SENRGY yn cydweithio â CCW mewn ystod o raglenni monitro ecolegol hir dymor.
- Tri o leiniau cymharu a thri llain bylchau coed parhaol mewn coedwig law drofannol fynyddig yn Jamaica, lle ceir corwyntoedd. Sefydlwyd y rhain yn 1986.
- Dau arbrawf hir dymor mewn rhannau o goedwigoedd glaw trofannol mynyddig yn Jamaica y mae’r rhywogaeth o goed Awstralaidd, Pittosporum undulatum, wedi ymwthio’n drwm ac yn ysgafn iddynt. Mewn rhwydwaith o leiniau a atgynhyrchwyd, rydym yn cymharu cyfansoddiad a deinameg coedwigoedd y mae’r rhywogaethau ymwthiol wedi cael eu clirio ohonynt, caniatáu iddynt ymwthio iddynt a’u rheoli â mesurau tymor byr. Sefydlwyd 1990 - 1995. Mwy o wybodaeth
- Chwech o leiniau sampl mewn coedwig law drofannol iseldir yn ardal Maquenque o ogledd Costa Rica. Sefydlwyd yn 2005. Mwy o wybodaeth
- Safleoedd arbrofol tymor hir mewn coed taiga is a chanol yn Rwsia. Ni thorrwyd coed erioed ar y safleoedd hyn ac maent yn safleoedd llinell sylfaen unigryw. Defnyddir y safleoedd i gymharu effeithiau llygredd a thorri coed ar ecosystemau coedwigoedd taiga.
-
Coedwigoedd planhigfeydd
- Coedwigoedd planhigfeydd coniffer sy’n cael eu troi’n Goedwigaeth Gorchudd Parhaus yng ngogledd a chanolbarth Cymru yng Nghoedwig Gwydir, Coed y Brenin, Coedwig Clocaenog, Trallwng.
- Bangor-FACE, arbrawf i brofi effeithiau lefelau uwch o CO2 uwchben ac o dan y ddaear ar sefydlu lleiniau o wahanol gymysgeddau o rywogaethau coed. Mwy o wybodaeth
-
Coedamaeth coedwigaeth a phori
- Henfaes silvopastoral experiment
- Arbrawf aml-haen - safle 30 ha yng Ngholombia lle tyfir gwahanol gyfuniadau o lwyni, ffrwythau a phorthiant yn ogystal â lle i wartheg bori.
-
Adfer tir ôl-ddiwydiannol
- Arbrofion hir dymor i sefydlu chwech o rywogaethau coed a llwyni gydag addasiadau is-haen i gynyddu faint o ddŵr a maetholion sydd i’w cael ar domenni gwastraff chwareli llechi. Mwy o wybodaeth
Data maes llinell sylfaen
Yn ogystal, mae gan yr Ysgol setiau data o brojectau gwaith maes blaenorol a wnaed mewn ystod eang o gynefinoedd o gwmpas y byd. Er nad yw’r lleiniau maes wedi cael eu cynnal a’u cadw wedi hynny i ddibenion monitro manwl gywir, mae potensial da ynddynt i ail gofnodi a chymharu â data llinell sylfaen sydd ar gael er mwyn asesu newid amgylcheddol. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Lleiniau arbrofol coedwigaeth eilaidd, gwrychoedd ar lethrau a rhywogaethau coed yn Jamaica.
- Effeithiau tarfu ar goedwigoedd calchfaen sych yn Jamaica
- Cyfansoddiad coedwigoedd calchfaen ar hyd graddiant glawiad yn Jamaica.
- Coedwigoedd hynafol wedi’u diogelu yn nhiroedd 38 o eglwysi a mynachlogydd Eglwys Uniongred Ethiopia; adnodd gwerthfawr ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth sydd wedi’i ddosbarthu ar draws ucheldiroedd Ethiopia. Mwy o wybodaeth
- Olyniaeth gynradd ar lifoedd lafa, braenar coedwigoedd eilaidd a safleoedd cynaeafu coed yn Cameroon
- Cynhyrchiant rhywogaethau coed drudfawr mewn braenarau coedwigoedd eilaidd yn Cameroon
- Coedwigoedd Alpaidd llinell goed yn yr Eidal
- Adfywio coedwigoedd mewn hen feysydd yng Ngwlad Thai
- Adfywio coetir miombo yn Tanzania. Mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan I-TOO.
- Effaith cynaeafu cynhyrchion coedwig heblaw coed ac amaethyddiaeth torri a llosgi ar goedwig law drofannol yn Madagascar
- Deinameg poblogaeth rhywogaethau coed mewn coedwig isdrofannol yn yr Ariannin.
- Lleiniau planhigion isel mewn coetir derw mewn arbrawf yn ymwneud â gwahanol ddulliau pori yn Nant Gwynant, Eryri.
- Adfywiad naturiol coed mewn safleoedd uwchdir wedi’u gorchuddio â rhedyn yn nyffryn Aber ac ar Fynydd Conwy
- Ystod o ddata a phrofion monitro ar goed, llwyni a llystyfiant gweundir a sefydlwyd yn ystod adfer tomennydd gwastraff llechi gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyferbyniol. Mwy o wybodaeth
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am unrhyw rai o’r safleoedd hyn, cysylltwch â Michelle Jones yn y lle cyntaf.