Eidales o’r Wyddgrug yn cipio Medal y Dysgwyr
Francesca Elena Sciarrillo o’r Wyddgrug sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019. Fe’i gwobrwywyd mewn seremoni ar lwyfan prifwyl yr Eisteddfod heddiw (Dydd Mawrth, Mai 28).
Graddiodd Francesca, 23, gydag MA mewn Llenyddiaeth Saesneg yn 2018, ac mae hi nawr yn brentis graddedig mewn Marchnata. Hi yw’r unig berson o’i theulu sy’n siarad Cymraeg, ac Eidaleg yw ei theulu i gyd.
Meddai: “Dwi’n falch iawn o fod yn Eidalwraig a Chymraes - dwy wlad brydferth! Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd mewn sawl ffordd. Mae wedi agor drysau i mi i lyfrau newydd, cerddoriaeth newydd, gwleidyddiaeth newydd ac yn bwysicach, pobl newydd, pobl sy’n golygu’r byd i mi!”
Mae’n ennill ar ôl diwrnod o heriau yn ymwneud â’r gystadleuaeth, a osodwyd i brofi iaith, hyder a gwybodaeth y tri chystadleuydd terfynol. Roedd y rhain yn cynnwys gwneud cyfweliad byw gyda BBC Radio Cymru a siarad cyhoeddus mewn cynhadledd i’r wasg brysur o flaen newyddiadurwyr a chamerâu teledu.
Llongyfarchiadau hefyd i Jack Wilson yn wreiddiol o Warrington, sy’n astudio Cemeg a ddaeth yn ail.
Nod Cystadleuaeth Medal y Dysgwyr yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod. Caiff ei dyfarnu i unigolyn sydd yn dangos sut maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd mewn coleg neu waith ac yn gymdeithasol yn ogystal â hyrwyddo ac annog y Gymraeg ymysg eraill.
Ffynhonnell: Urdd
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019