£1 miliwn o hwb ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prosiect arbrofol i gynnal ymchwil i newid ymddygiad y diwydiant
Mae Alun Davies, y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, wedi cyhoeddi y bydd prosiect peilot sy’n cynnal ymchwil arloesol er mwyn helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd yn cael £1 miliwn o arian Ewropeaidd.
Bydd arian yr UE yn helpu Prifysgol Bangor i ddefnyddio ymchwil newydd fel rhan o’i hastudiaeth arbrofol sy’n werth £2 filiwn i greu Canolfan Newid Ymddygiad Cymru.
Y nod yw sefydlu canolbwynt yn y Brifysgol fydd yn helpu busnesau i wella eu cynhyrchiant a chryfhau eu cadwyni cyflenwi trwy ddefnyddio ymchwil mewn newid ymddygiad. Disgwylir datblygu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd mewn meysydd fel iechyd a diogelwch yn ogystal â chynhyrchiant a lles yn y gweithle. Hefyd, bydd yr ymchwil yn annog busnesau i gydweithio er mwyn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau fydd yn gallu defnyddio apps symudol, gwaith 3-D a gemau gan eu helpu i fod yn fwy cystadleuol ar lwyfan rhyngwladol.
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad am yr arian yn ystod ei ymweliad â’r Gogledd, yn y cyntaf o bedwar digwyddiad ymgynghori rhanbarthol ar ddyfodol Cronfeydd Strwythurol a Rhaglenni Datblygu Gwledig 2014-2020 yng Nghymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, Alun Davies:
“Rwy’n falch iawn ein bod, trwy reoli ein cronfeydd Ewropeaidd yn llwyddiannus, yn gallu buddsoddi mewn gweithgareddau sy’n torri tir newydd ym maes ymchwil ac arloesedd ac sy’n helpu i greu economi ‘smart’ a chystadleuol ar lefel ryngwladol i Gymru.
“Wrth edrych ymlaen, rydym yn benderfynol o wneud y mwyaf y gallwn ni o unrhyw arian Ewropeaidd a gawn yn y dyfodol ac rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar sut i fuddsoddi cronfeydd Ewropeaidd yn y dyfodol er mwyn creu twf a swyddi.
“Mae llawer o ansicrwydd yn bodoli o hyd am swm yr arian y bydd Cymru’n debygol o’i gael am fod cynigion i dorri cyllideb bresennol yr UE yn cael eu trafod yn ogystal a sut i ddosbarthu’r arian ymysg yr Aelod Wladwriaethau.
“Rwy’n poeni’n arw am hyn gan fod cronfeydd Ewropeaidd wedi bod ac yn parhau i fod yn hanfodol i droi Cymru’n wlad hyderus, uchelgeisiol ac entrepreneuraidd a chanddi economi amaethyddol gref. Yng Ngogledd Cymru yn unig, mae’r Cronfeydd Strwythurol eisoes wedi helpu 4,500 o bobl i gael gwaith a dros 17,000 o bobl i ennill cymwysterau, gan greu bron 3,520 o swyddi a 1,250 o fusnesau.
Rydym wedi bod yn pwyso am gael bargen decach i Gymru fel bod rhanbarthau ‘llai datblygedig’ fel y Gorllewin a’r Cymoedd, sy’n cynnwys siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych, yn cael lefelau digonol o arian fel bod prosiectau ymchwil a datblygu fel Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn gallu parhau i helpu busnesau a rhoi hwb i’r economi.
“Rwy’n gobeithio y bydd Ewrop yn penderfynu ar gyllideb decach i Gymru a rhanbarthau tlotach eraill yn Ewrop ddechrau’r mis nesaf fel gall y rownd nesaf o raglenni ariannu Ewropeaidd yng Nghymru allu dechrau’n gynnar yn 2014.”
Wrth groesawu'r cyllid meddai’r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: "Mae'r cyllid hwn yn fuddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru ym Mhrifysgol Bangor ac yn ymrwymiad gwirioneddol gan y ddau barti i gynnal yr ymchwil gorau posibl a gaiff effaith fawr yng Nghymru. Mae gan yr Ysgol Seicoleg hanes hir o'r ymchwil mwyaf blaenllaw'r byd i newid ymddygiad mewn meysydd fel bwyta'n iach, anhwylderau ymddygiad, rhianta ac addysg. Bydd y project newydd hwn yn adeiladu ar arbenigedd Bangor i ddefnyddio gwyddor newid ymddygiad i ddylanwadu ar ystyriaethau sy'n bwysig i fusnesau lleol a chymdeithas gynaliadwy. Bydd Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn sefydlu tîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr a fydd yn gweithio ochr yn ochr â chwmnïau bach a chanolig lleol er lles y byd academaidd a'r gymuned leol hefyd. Mae’n broject cyffroes ac arloesol iawn.”
Dywedodd Dr Carl Hughes o Brifysgol Bangor sy’n Ddirprwy Gyfarwyddwr prosiect Canolfan Newid Ymddygiad Cymru bod unrhyw ymchwil a datblygu a wneir yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant ac elw'r cwmnïau sy’n cymryd rhan.
Dywedodd:
“Rydym yn hapus iawn ein bod wedi cael help gan Lywodraeth Cymru i sefydlu’r ganolfan hon. Bydd yn rhoi cyfle i seicolegwyr Ymddygiadol, Gwyddonwyr Chwaraeon, Peirianwyr, Dylunwyr a Gwyddonwyr Cyfrifiadurol ddod ynghyd i helpu i newid ymddygiadau er mwyn ymdopi a heriau’r byd go iawn. Hefyd, bydd y gymuned a busnesau lleol yn cael helpu i lunio’r ymchwil.
“Mae’r ganolfan hon yn enghraifft wych o’n gallu cynyddol i droi ymchwil o safon rhyngwladol yn rhaglenni ymarferol er lles yr economi leol ac economi Cymru.”
Un o’r sectorau sy’n debygol o gael budd o’r cynllun yw’r diwydiant niwclear a’i gadwyn gyflenwi o gwmnïau bach a chanolig yn rhanbarth y Gogledd-orllewin. Disgwylir y bydd ymchwil i newid ymddygiad yn gallu gwella technegau diogelwch a helpu busnesau i weithredu’n well ac i fod yn fwy cystadleuol.
Elfen arall o’r prosiect fydd defnyddio ymchwil i hyfforddi staff yn y gweithle. Y nod fydd newid persbectif y staff. Gallai hynny arwain at lai o absenoldebau a chynyddu cynhyrchiant ymysg busnesau bach a chanolig a chyrff mwy.
Mae croeso i unigolion, busnesau bach a chanolig a chyrff eraill sydd â heriau penodol yn eu gweithleoedd i gysylltu â’r ganolfan i gael rhagor o wybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, e-bostiwch David Menichino, Rheolwr Datblygu Busnes.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2013