1000 o Fywyda +
Llongyfarchiadau i ddwy fyfyrwraig o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor, sydd wedi eu gwahodd i gyflwyno yn y Dosbarth Meistr ‘1000 o fywyda’ ar gyfer myfyrwyr ac addysgwyr ar y 10fed Mehefin yn Abertawe. Bydd y myfyrwyr yn adrodd ar brosiectau gwahanol sy’n cyfrannu tuag at wella gofal cleifion yng Nghymru.
Mae Lynne Roberts a Donna Ward ill dwy yn astudio ar gyfer BN mewn Nyrsio Oedolion ym Mangor. Bydd Lynne sy’n fyfyriwr trydedd flwyddyn yn cyflwyno sgwrs o dan y teitl: "Ansawdd mewn cynllunio gofal sy'n canolbwyntio ar y claf: ymyriadau nyrsio er mwyn lleddfu rhwymedd".
Barn Lynne ynglŷn â chyflwyno yn y gynhadledd: "Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy newis i gyflwyno yn y digwyddiad yma yn Abertawe. Mae fy nghyflwyniad yn ymwneud â thynnu sylw at bwysigrwydd integreiddio ymyriadau syml i sicrhau bod y claf yn ganolog wrth gynllunio gofal i liniaru rhwymedd. Yr wyf yn edrych ymlaen at y digwyddiad "
Myfyriwr yn ei hail flwyddyn yw Donna, a bydd yn cyflwyno poster ar ei phrosiect yn dwyn y teitl: "Rheoli pryder cyn llawdriniaeth mewn unedau llawdriniaeth ddydd". Mae Donna hefyd yn "falch o gael gwahoddiad i gyflwyno fy mhoster".
Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad ar gael yn:
http://www.1000ofywydauamwy.wales.nhs.uk/hafan
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2013