12 Mis o greu argraff yn M-SParc
Mae busnesau sydd wedi'u lleoli yn M-SParc yn arwain y ffordd mewn arloesedd a datblygu economaidd. Edrychwn yn ôl dros y flwyddyn a'r effaith a gawsant.
Ers i’r Parc agor ym mis Mawrth 2018, mae’r 24 busnes wedi creu 24 swydd newydd, rhoi profiad gwaith i 6 myfyriwr, rhoi cyfleoedd cyflogaeth i 4 o raddedigion ac wedi cynyddu trosiant eu cwmni er budd y rhanbarth. Newyddion da a chychwyn da ar gyfer gwneud 2019 yn flwyddyn llwyddiannus.
O’r swyddi hynny, mae M-SParc Cyf wedi creu saith swydd yn uniongyrchol â 3 o’r rheiny’n swyddi newydd yn y 12 mis diwethaf.
Mae BIC Innovation, sy’n darparu cymorth gwella busnes a chefnogaeth ar dyfu busnes i BBaChau (SMEs), wedi cyflogi saith unigolyn yn ystod yr wyth mis diwethaf, gyda thri o’r rheiny wedi eu lleoli yn M-SParc. Dywedodd Huw Watkins, bod “bod yn M-SParc wedi’n galluogi ni i i gyrraedd cleientiaid newydd ac ehangu ein cleientel. Rydym wedi gwella’n gweledigaeth i’r cyhoedd ac wedi cael budd mawr o gyfarfod pobl ar hap yma. Drwy amrywiaeth o wasanaethau masnachol ac wedi’u hariannu, rydym wedi gallu cefnogi pump o denantiaid presennol M-SParc, gan gyfrannu at fywiogrwydd yr sefydliad gwych hwn.”
Cwmni technoleg sy’n datblygu atebion arloesol i gleientiaid yn y diwydiant pensaernïaeth, peirianneg ac adeiladu yw Futurium ac maent wedi cyflogi 10 unigolyn newydd ers cyrraedd M-SParc 6 mis yn ôl.
Dywedodd Tomasz Mulikiewicz, Cyd-Sylfaenydd, bod “ethos M-SParc yn un o’r prif resymau pam y symudom yma fel cwmni. Wrth ddatblygu cwmni technoleg blaenllaw yng Ngogledd Cymru, roeddem angen adeilad ac amgylchedd a oedd yn cyrraedd ein anghenion.
Hoffem longyfarch tîm M-SParc am greu amgylchedd ddynamig, broffesiynol a blaengar.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, “Mae’n wych gweld y cynnydd sydd wedi ei wneud yn M-SParc dros y 12 mis cyntaf. Nod y parc, sydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru, oedd dod â busnesau blaengar at ei gilydd mewn awyrgylch gefnogol a chreadigol ac i sicrhau bod y busnesau hynny’n tyfu. Mae hynny wedi digwydd hyd yn hyn, yn sicr. Hefyd, mae’n dda gweld y cysylltiadau ag ysgolion a phrifysgolion, yn dangos i raddedigion bod cyfleoedd am swyddi arloesol lefel-uchel sy’n talu’n dda yng Ngogledd Orllewin Cymru.”
Darparwyd profiad gwaith i 4 myfyriwr o ysgolion lleol dros y 12 mis diwethaf, gan roi blas o beth yw gwir ystyr technoleg a gwyddoniaeth gan eu hysbrydoli am y dyfodol. Mae 16 digwyddiad allweddol wedi cael eu cynnal yn M-SParc ers mis Mawrth, gan ymgysylltu â 1,300 o bobl. Roedd 5 o’r digwyddiadau hynny’n targedu pobl ifanc a cyrhaeddwyd 460 o blant. Mae M-SParc wedi cynnal digwyddiad i’r ysgol gynradd leol, 4 clwb codio, cynnal digwyddiad F1 ‘Team Drive’ ysgolion y gwnaeth M-SParc ei nodi, a lansiad prosiect Profi â Phrifysgol Bangor i ysbrydoli pobl ifanc sy’n ystyried eu gyrfa. Bydd mwy o ymgysylltu a digwyddiadau dros y flwyddyn nesaf er mwyn rhoi Gogledd Orllewin Cymru ar y map; mae rhywbeth positif yn digwydd yma, maent yn creu argraff, ac mae M-SParc eisiau i fwy o bobl fod yn rhan o hyn.
Mae M-SParc wedi ei leoli ym Mharth Menter Ynys Môn, ac yn berchen i Brifysgol Bangor sy’n golygu bod modd adeiladu ar y berthynas hon er budd y tenantiaid. Mae profiad gwaith wedi ei ddarparu ar gyfer chwech o raddedigion â phedwar ohonyn nhw o Brifysgol Bangor. Bydd dau brofiad gwaith i fyfyrwyr yn troi’n swyddi llawn amser unwaith y byddant yn graddio, gyda thrydydd myfyriwr yn gobeithio dychwelyd ar ôl graddio fel cyflogai o’r cwmni sy’n darparu ei profiad gwaith iddo – bydd hyn yn dod â nifer y swyddi sydd wedi eu creu yma i 20 mewn 12 mis! Hyd yn hyn, y cyrsiau Peirianneg a Dylunio Cynnyrch sydd wedi cael y budd mwyaf, ond mae cysylltiadau’n datblygu ac mae M-SParc yn parhau i ddarparu cyfleoedd pellach i fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae hyn yn cynnwys Santander yn agor swyddfa yma ar gyfer graddedigion sy’n datblygu cwmni neu gynnyrch newydd, a swyddfa i’w rhannu i’r ‘Chwe Chwim’ ar gyfer y rheiny sy’n cychwyn busnes.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, y Rheolwr Gyfarwyddwr, “Mae ymrwymiad ein tenantiaid i ddatblygu ac ehangu eu cwmnïau yma yn M-SParc yn ysbrydoledig. Mae’r ethos yr oeddem yn credu y byddem yn gorfod ei dyfu yma yn ymddangos i fod yn rhywbeth yr oedd ein cwmnïau wedi bod yn disgwyl amdano! Mae’r rheiny sy’n gwmnïau newydd yn cynyddu trosiant eu cwmni ac yn dysgu gan gwmnïau eraill ar y safle ac yn gwneud y mwyaf o’n cefnogaeth busnes ymrwymedig. Mae rhai o’r BBaChau mwyaf yn symud yn ofnadwy o sydyn”
Dylen ni ddim canolbwyntio ar y creu swyddi yn unig, ond ar y ffordd y mae ein tenantiaid yn darparu cyfleoedd i is-raddedigion, yn siarad â phlant yn ein digwyddiadau er mwyn rhannu eu siwrnai a’u profiadau ac yn mynychu ein gwersi Cymraeg i ddysgu mwy ac i integreiddio â’r gymdeithas. Mae’n teimlo fel ein bod yn adeiladu rhywbeth arbennig, ac nid dim ond M-SParc fel cwmni sy’n gyfrifol am hyn. Dylai ein tenantiaid gael eu brolio am y gwahaniaeth real y maent yn eu creu yn y rhanbarth, bron i flwyddyn ar ôl inni agor y drysau iddyn nhw!”
Mae M-SParc wedi ennill gwobrau yn y 12 mis diwethaf hefyd, yn cipio gwobr Prosiect Adeiladu’r Flwyddyn yng ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Cymru a gwobr Prosiect Adeiladu Digidol y Flwyddyn 2018 yng ngwobrau Cenedlaethol Rhagoriaeth mewn Adeiladu. Gan barhau â’r llwyddiant, derbyniodd M-SParc gytundeb £1m â Chyllid Datblygiad Rhanbarthol drwy Lywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaid ar draws Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Menter Môn. Gyda 6 Hwb Menter wedi eu creu yng Nghymru er mwyn cefnogi cannoedd o fusnesau newydd yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Dinbych – bydd adeilad M-SParc yn hwb, ac yn fan i fusnesau bychain a busnesau sydd ar gychwyn yn y rhanbarth sefydlu eu hunain.
Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn canolbwyntio ar greu sylfaen i M-SParc, ac rydym wir yn edrych ymlaen at 2019 a’r cyfle i barhau i ddangos gwir effaith y Parc ar y rhanbarth. Bydd M-SParc yn cynnig mwy o gefnogaeth busnes i’n tenantiaid er mwyn bod yn gymorth iddyn nhw gynyddu eu trosiant a chreu cyfleoedd cyflogaeth pellach. Rydym hefyd yn bwriadu agor hwb cyfarfod tu allan yn ein y cwrt tu allan, i gynyddu’r hyblygrwydd yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer y bobl sydd eisiau gweithio fel y mynnon nhw, felly gwyliwch y gofod! Wrth edrych ymlaen, mae M-SParc yn llawn cyffro i barhau’r datblygiad, i greu mwy o argraff â gweddill y busnesau sydd wedi eu lleoli yma er mwyn creu rhywbeth gwirioneddol bositif ar gyfer y rhanbarth.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2019