2001 yn dod i Fangor
ydd y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu hanner canfed pen blwydd y ffilm chwedlonol, 2001: A Space Odyssey yn Pontio ddydd Sadwrn, 16 Mehefin 2018.
“Mae 2001: Beyond 50” yn ddiwrnod o sgyrsiau, cerddoriaeth a chelf sy'n dathlu'r ffilm sy'n cynnwys amrywiaeth eang o arbenigwyr a phobl a weithiodd ar y ffilm.
Bydd hwn yn gyfle i'r cyhoedd glywed o lygad y ffynnon brofiadau'r rhai a weithiodd gyda'r cyfarwyddwr chwedlonol, Stanley Kubrick, wrth wneud y ffilm, a chael gofyn cwestiynau.
Bydd arbenigwyr byd-eang yn edrych ar etifeddiaeth artistig, athronyddol, seicolegol, crefyddol a gwyddonol y ffilm, a'r effaith enfawr y mae wedi ei chael ar ein diwylliant a'n technoleg.
Bydd propiau o'r ffilm, yn ogystal â chelf a ysbrydolwyd gan y ffilm, yn cael eu harddangos, a bydd cyngerdd byr o gerddoriaeth o ffilmiau Kubrick, yn cynnwys 2001.
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i drigolion lleol, myfyrwyr ac ymwelwyr fwynhau a dysgu am effaith enfawr 2001. Trwy haelioni'r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudiaethau Americanaidd, mae nifer o fwrsariaethau ar gael i helpu gyda chostau cofrestru'r rhai hynny sydd ar incwm isel, yn ddigyflog, neu o dan anfantais.
Dywedodd cydlynydd y digwyddiad, Dr Nathan Abrams, Athro mewn Astudiaethau Ffilm yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau:
“Cyhyd ag y gwn i, dyma'r unig ddigwyddiad o'i fath sy'n cael ei gynnal ym Mhrydain i ddathlu carreg filltir y ffilm chwedlonol hon. Mae'n gyffrous iawn croesawu rhai o'r bobl a weithiodd ar y ffilm ym Mangor, a chlywed eu profiadau, yn ogystal â gweld rhai o'u harteffactau. Heb 2001, ni fyddai Star Wars, Matrix, nac unrhyw ffilmiau ffuglen wyddonol y gellwch feddwl amdanynt yn bodoli. Ac roedd effaith 2001 hyd yn oed yn fwy na hynny.”
Trefnwyd y digwyddiad hwn ar y cyd gyda Choleg Celfyddydau a Dyniaethau'r Brifysgol, y Ganolfan Ehangu Mynediad, yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, yn ogystal â'r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudiaethau Americanaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2018