32 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn cyrraedd copa Kilimanjaro er budd elusen Mind
Ar ôl blwyddyn o ddod i adnabod ei gilydd ac ymarfer, fe wnaeth grŵp o 32 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyrraedd copa mynydd Kilimanjaro gyda'i gilydd ychydig ar ôl codiad haul ar y 9ed o Fedi.
Roedd y daith lafurus hon i fyny mynydd uchaf Affrica, sydd 5,895 metr uwch lefel y môr, er budd yr elusen iechyd meddwl Mind ac mae'r tîm hyd yma wedi codi bron i £100,000.
Y myfyrwyr a arweiniodd yr her oedd Tom Savory, o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer a James Grimont o Ysgol Busnes Bangor; ynghyd â'r arweinwyr cynorthwyol Lydia Graham a Jacob Shaw, sy'n astudio Gwyddor Chwaraeon gyda Gweithgareddau Awyr Agored a Noah Williams, myfyriwr Astudiaethau Busnes.
Dywedodd Tom Savory: “Roedd dewis Mind fel yr elusen i'w chefnogi yn ddewis personol i James a minnau. Mae materion iechyd meddwl naill ai wedi effeithio'n uniongyrchol ar lawer o aelodau'r tîm neu maent wedi ymrwymo i helpu eraill drwy godi arian a chodi ymwybyddiaeth.
“Rwyf wedi adnabod tri o bobl sydd wedi cyflawni hunanladdiad, felly i mi mae cefnogi Mind yn ffordd ymarferol y gallaf helpu eraill y gall amrywiol faterion iechyd meddwl effeithio arnynt.
“Roedd y daith yn drosiad perffaith o'r hyn roeddem yn ceisio ei gyflawni. Roedd yr anhawster a'r uchder yn golygu bod pawb yn ei dro wedi profi gorfoledd ac iselder eithafol. Rydych chi'n mynd trwy rai brwydrau meddyliol difrifol gyda chi'ch hun i beidio ag ildio i'r boen a dal i fynd ymlaen am ychydig gamau wedyn. Yn sicr ni fyddwn wedi llwyddo i gyrraedd y copa heb gefnogaeth y tywyswyr, y cludwyr a gweddill y tîm."
Meddai James Grimont: “Roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth o’r gwaith mae Mind yn ei wneud. Gwn y gall materion iechyd meddwl fod yn anodd eu deall ond, drwy'r ymdrech anhygoel y mae tîm Bangor wedi’i gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gallu helpu llawer o unigolion sydd angen cefnogaeth yr elusen. Trwy weithredu fel Arweinydd Her i Choose a Challenge, llwyddais i ddatblygu sgiliau arwain a hunanhyder a phrifio fel unigolyn. Fe wnaeth taith Kilimanjaro fy ngalluogi i fwynhau fy hoffter mawr o gerdded a dringo; a rhoddodd fwy o ysgogiad i mi gyflawni ymdrechion tebyg. ”
Dywedodd Joel Allsup, myfyriwr gradd Meistr mewn Sŵoleg: “Mae paratoi ar gyfer y daith wedi fy helpu gyda materion iechyd meddwl a oedd gen i fy hun. Efallai na fyddaf yn gallu cael llawer o effaith ar bynciau llosg fel tlodi byd-eang a newid hinsawdd ond, trwy godi arian ar gyfer Mind, rwy'n teimlo y bydd fy ymdrechion yn helpu eraill sydd angen cefnogaeth yr elusen yn uniongyrchol.
“Fel eraill yn y tîm, bu’n rhaid imi ddelio â salwch uchder, ond wrth imi agosáu at y copa, cefais fy llenwi gan ymdeimlad o gyflawniad, nid oherwydd y straen corfforol a’r gwytnwch a gymerodd i gyrraedd yno, ond oherwydd y cymhellion iechyd meddwl personol a wnaeth fy ysgogi i fynd ar y daith."
Dywedodd Jasmin Dobson, myfyriwr Seicoleg gyda Niwroseicoleg: “Roedd Kilimanjaro yn un o'r profiadau mwyaf anhygoel i mi, er ei fod yn un o'r profiadau mwyaf heriol yn feddyliol rydw i erioed wedi gorfod ei wneud. Mae Mind yn elusen mor wych ac mae codi arian ati wedi fy nysgu pa mor bwysig yw lledaenu ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl. ”
Dyma oedd gan Megan Jones, sy'n astudio Addysg Gynradd gyda SAC, i'w ddweud: “Hwn oedd y peth mwyaf heriol yn feddyliol ac yn gorfforol i mi ei wneud erioed, ond hefyd y peth rydw i wedi cael mwyaf o foddhad o'i gyflawni.”
Dywedodd Leigh Fuller, myfyriwr Daearyddiaeth ail flwyddyn: “Yn feddyliol, y ddringfa oedd y peth anoddaf i mi ei wneud erioed, ond pan oeddech yn cyrraedd gwersyll ar ddiwedd y dydd roedd teimladau gwych o gyflawniad a rhyddhad yn llifo drosoch. Er y cafwyd ambell funud anodd, roedd y profiad drwodd a thro yn un cadarnhaol ac mae gennym i gyd atgofion y byddwn yn eu trysori am byth ac rydym wedi gwneud ffrindiau oes.”
Dywedodd Darcey Bradburn, myfyriwr Seicoleg yn ei drydedd flwyddyn: “Roeddwn yn falch i godi arian at Mind, gan fod yr elusen yn agos at fy nghalon. Mae rhai o fy nheulu, gan gynnwys fi fy hun, wedi delio â phroblemau iechyd meddwl yn y gorffennol. Mae'n braf gwybod y bydd fy ymdrechion yn helpu'r rhai sy'n delio â'u hanawsterau iechyd meddwl eu hunain. "
Meddai Jasmin Williams, myfyriwr trydedd flwyddyn yn astudio Seicoleg Chwaraeon: “Roedd y dyddiau cyn cyrraedd y copa ac wrth ddod i lawr yn rhai da, ond fe wnaeth yr uchder fy nharo yn ystod y ddringfa olaf. Fe wnaeth salwch uchder waethygu popeth, ond roedd gwylio codiad yr haul yn Stella Point yn sicr yn werth chweil, a chydag anogaeth gan y tywysydd a fy ffrindiau, llwyddais i gyrraedd copa Uruhu! ”
Dywedodd Alfie Martin-Parsons, myfyriwr trydedd flwyddyn sy'n astudio Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid: “Fe wnes i ddringo Kilimanjaro er cof am fy nghefnder a gyflawnodd hunanladdiad. Rwy'n gobeithio y bydd cymryd rhan yn y daith hon i godi arian at Mind yn helpu i greu ymwybyddiaeth o anawsterau iechyd meddwl ac yn fwy penodol iechyd meddwl ymysg dynion.”
Dywedodd Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor: “Rydym yn hynod falch o'n myfyrwyr am gyflawni'r her anodd hon. Bydd eu hymdrechion yn helpu cymaint sydd angen cefnogaeth yr elusen.”
Meddai Lucy Lloyd, Uwch Swyddog Codi Arian yn Mind Cymru: “Mae'r gwaith caled a'r ymroddiad a ddangosodd myfyrwyr Prifysgol Bangor wrth goncro Kilimanjaro wedi creu cymaint o argraff arnom.
“Rydym ni’n gwybod bod llawer o’r myfyrwyr wedi cael problemau eu hunain gyda’u hiechyd meddwl ac felly mae eu gweld yn goresgyn yr her hon a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl da yr un pryd yn ysbrydoliaeth wirioneddol.
“Mae codi bron i £100,000 yn gamp anhygoel ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am eu cefnogaeth. Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bob un ohonom sydd angen cefnogaeth pan fydd ei hangen arnom fwyaf. ”
Cynorthwywyd y daith hon trwy gyfraniad gan Gronfa Bangor. Mae Cronfa Bangor yn gwella ansawdd profiad ein myfyrwyr yn y brifysgol trwy gefnogi eu haddysg a'u datblygiad. Trwy fwrsariaethau teithio, ysgoloriaethau, darpariaeth chwaraeon neu weithgareddau diwylliannol ymysg pethau eraill, mae'r ystod eang o gefnogaeth a ddarperir gan Gronfa Bangor yn galluogi'r brifysgol i roi profiadau eang a helaeth i'w myfyrwyr.
Ewch i dudalen gyfrannu'r tîm i gael mwy o wybodaeth am yr her neu os hoffech chi gyfrannu. Bydd rhoddion ar y dudalen hon yn cael eu rhannu'n deg ymhlith yr holl fyfyrwyr a fu'n codi arian at y daith hon ac yn mynd i Mind. Os ydych chi am noddi myfyriwr penodol, rhowch gyfraniad i'w tudalen unigol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019