4ydd Cynhadledd Ryngwladol IFABS ar Ail-feddwl Bancio a Chyllid: Arian, Marchnadoedd a Modelau
4ydd Cynhadledd Ryngwladol IFABS (International Finance and Banking Society) ar Ail-feddwl Bancio a Chyllid: Arian, Marchnadoedd a Modelau
Valencia, 18-20 Mehefin 2012
Trefnwyd sesiynau arbennig gan ddarlithyddion Ysgol Busnes Bangor, yr Athro Shahid Ebrahim a Dr Thanos Verousis, yn y gynhadledd uchod. Noddir sesiwn arbennig yr Athro Ebrahim, sydd yn ymwneud â Bancio a Chyllid Islamaidd, gan GOLCER (Gulf One Lancaster Centre for Economic Research) yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Lancaster, tra bod sesiwn Dr Verousis ar ficro-strwythyr marchnadoedd deilliadol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2012