A all gogledd Cymru arwain ym maes yr economi werdd?
Gydag un rhan o dair o fusnesau’r DU yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu cynnyrch a gwasanaethau ‘gwyrdd’, a all gogledd Cymru fod yn fodel i’r economi werdd a chael budd ohoni?
Cynhelir digwyddiad pwysig ym Mhrifysgol Bangor ar 20 Tachwedd gydag arweinwyr yn y maes yn cyfarfod i drafod sut y gall gogledd Cymru fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan yr economi werdd. Cyd-Greu Economi Werdd yw’r gyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau cyffrous i fusnesau, asiantaethau, y llywodraeth, ymgyrchwyr ac entrepreneuriaid cymdeithasol ddod at ei gilydd i helpu i greu newid go iawn. Rhaid cofrestru ymlaen llaw ar wefan y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd cyn dod i’r digwyddiad yng Nghanolfan Rheolaeth y Brifysgol ym Mangor.
Meddai Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru, cyn y digwyddiad:
“Mae ‘economi werdd’ yn gwarchod natur, gwella cymunedau ac yn creu gwerth mewn byd lle mae cyfyngu cynyddol ar adnoddau. Mae’n rhaid i fesurau o’r fath gyd-fynd â chreu cyfleoedd newydd – swyddi tymor hir, gwelliannau o ran lles, enillion effeithlonrwydd, lleihau costau yn ogystal â chynnyrch newydd ac arloesi.
Mae defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon a gwarchod ac adnewyddu asedau naturiol yn sicrhau gwelliannau hirdymor i ansawdd ein bywyd, ac yn gweld gwerth yn yr asedau naturiol sydd ddim yn amlwg yn yr economi ond sydd wedi bod yn sail i lwyddiant economaidd dros y canrifoedd.”
Yn ôl Oliver Greenfield, o’r Gynghrair Economi Werdd, un o’r prif siaradwyr yn y digwyddiad, “Mae’n rhaid i bob busnes roi sylw i’r trawsnewid hwn i economi werdd er mwyn bod ar y blaen a llwyddo mewn dyfodol a fydd yn wahanol iawn. Mae’n rhaid i ni gyd fod yn ddewr a chreu gweledigaeth economaidd newydd.”
Fel yr esboniodd Stuart Bond o’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd ym Mhrifysgol Bangor, sy’n cydlynu’r digwyddiad:
“Gall datblygu economi werdd i ogledd Cymru arwain at fuddsoddi sylweddol mewn busnesau a chreu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy. Ond er mwyn cyflawni hyn, mae angen gwneud newidiadau mawr i’n heconomïau, polisïau, technolegau a dulliau cynhyrchu a defnyddio. Er mwyn i ogledd Cymru gyrraedd ei llawn botensial fel arweinydd byd-eang ym maes cynaliadwyedd a’r economi werdd, mae’n rhaid i ni feddwl yn strategol ynglŷn â sut i wireddu’r newid hwn.”
Yn y digwyddiad cyntaf hwn, bydd meddylwyr strategol o’r Gynghrair Economi Werdd, Cynnal Cymru, y Sefydliad Economeg Newydd, Prifysgol Bangor a busnesau a diwydiant yn dod at ei gilydd i drafod y manteision a ddaw yn sgil economi werdd, a sut y gallwn fod yn rhan ohoni. Sut fyddai economi werdd yng ngogledd Cymru yn edrych a dychmygu ffyrdd o wireddu’r manteision hyn yng ngogledd Cymru.
Bydd y gyfres ‘Cyd-Greu Economi Werdd’ yn helpu i roi fframwaith i gyflawni hyn. Yn arbennig, bydd yn helpu i ganfod lle mae’r angen a’r potensial mwyaf, yn ffordd o ddysgu o brofiadau blaenorol, adnabod a mynd i’r afael â’r rhwystrau sydd eisoes yn bodoli, cefnogi datblygu economi gylchol a gwneud gogledd Cymru’n lle mwy deniadol i fuddsoddiadau gwyrdd.
Mae’r digwyddiad yn rhan o broject ehangach Rhwydwaith Economi Werdd sydd yn ei dro yn rhan o broject Arloesi Gwyrdd a Thechnolegau’r Dyfodol a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Ei swyddogaeth yw annog a chynghori busnesau bach a chanolig yn ardal ‘Interreg’ gogledd orllewin Cymru sydd eisiau gwybod mwy am yr ‘economi werdd’ a sut y gall helpu eu busnesau.
I gael economi werdd bydd rhaid i bob busnes fod yn rhan o’r trawsnewid hwn. Mae’r rhwydwaith Economi Werdd yn helpu busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw wrth ymgymryd â’r agenda gwyrdd, gall nifer ohonynt fod yn gamau bach a syml. Os hoffech ddechrau’r daith tuag at ddyfodol gwell gyda busnesau a sefydliadau eraill o’r un meddylfryd, cysylltwch â Sue Francis (s.francis@bangor.ac.uk) i fod yn rhan o’r project.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013