A all gosod negeseuon ar sigarennau ein darbwyllo i beidio ag ysmygu?
Bu dau academydd o Ysgol Fusnes enwog Prifysgol Bangor wrthi’n defnyddio eu gwybodaeth o astudiaethau marchnata a rheolaethol er mwyn ymchwilio i gyfwng newydd o gyfleu’r neges dim ysmygu, sef y sigarét ei hun.
Cyhoeddodd Dr Hassan a’r Athro Shiu ddarn o ymchwil yn y cylchgrawn Tobacco Control a oedd yn edrych ar dorri tir newydd mewn mentrau polisi gwrth-dybaco gan lywodraethau. (“No place to hide: two pilot studies assessing the effectiveness of adding a health warning to the cigarette stick” gan Dr Louise M. Hassan a’r Athro Edward Shiu (Ysgol Busnes Bangor).
Trwy’r byd, buwyd yn defnyddio dulliau cynyddol gaeth o reoli tybaco, megis gwaharddiad ar hysbysebu tybaco, rhybuddion iechyd mandadol, ar ffurf testun a lluniau, ar becynnau, amryw o ddeddfau aer glân yn cyfyngu ar y lleoedd y caiff pobl ysmygu ac, yn fwy diweddar, dileu gwybodaeth am frandio ar becynnau sigarennau gyda’r ddeddfwriaeth ar becynnau plaen a ddaeth i rym mewn rhai gwledydd megis Awstralia. Fodd bynnag, ar y cyfan, parhau’r un peth wnaeth cynllun y sigarét ei hun, heb ddangos gwybodaeth hyrwyddol na gwybodaeth am y cynnyrch, nac ychwaith rybuddion iechyd.
Trwy ddwy astudiaeth gysylltiedig, bu ymchwil Hassan a Shiu yn edrych ar bosibiliadau rhybuddion iechyd wedi’u hargraffu ar y sigarét ei hun. Yn ôl ymchwil flaenorol, mae gan ysmygwyr ddisgwyliad oes byrrach o ryw 14 blynedd, a sigarét nodweddiadol yn ‘costio’ 11 funud o fywyd. Ar sail y canfyddiadau blaenorol hyn, crëwyd sigarennau (ffotograff yn Astudiaeth 1 ac un ‘wirioneddol’ yn Astudiaeth 2) a’u dangos i ysmygwyr yn ymchwil Hassan a Shiu. Roedd y sigarét ffug yn dangos 11 o linellau amser i ddynodi munudau, ynghyd â’r rhybudd fod pob pwff yn lleihau disgwyliad oes o .... . Yn ôl canlyniadau’r ddwy astudiaeth, roedd cryn gynnydd o ran bwriad ysmygwyr i roi’r gorau iddi ar ôl gweld y sigarét ffug (6.9% yn Astudiaeth 1, a 15.7% yn Astudiaeth 2). Mae ymchwil Hassan a Shiu yn amserol, o gofio’r symudiad tuag at becynnau plaen, gyda chymhelliant cryf ar i gwmnïau tybaco symud gwybodaeth am frandio i’r sigarét ei hun. Caiff yr ymchwil effaith ar raddfa ehangach hefyd, am fod yr arfer o werthu sigarennau unigol, er iddo gael ei wahardd, yn dal yn gyffredin mewn rhannau o’r byd.
Meddai Dr Hassan:
“Dim ond y dechrau yw hwn yn yr ymchwiliad i’r posibilrwydd o gynnwys neges iechyd ar ffon y sigarét, ac mae angen llawer mwy o ymchwil yn y maes hwn er mwyn deall y buddion gwirioneddol a allai ddod.”
Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2013