A all planhigion gymryd lle cyfansoddion sy'n deillio o olew?
Mae Prifysgol Bangor yn ymateb i’r cynnydd parhaus ym mhris olew a’r modd y dihysbyddir cyflenwadau tanwyddau ffosil yn fyd-eang, drwy gynnal ymchwil arloesol i ddefnydd cyfansoddion defnyddiol sydd i’w cael mewn planhigion cyffredin. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn rhoi’r genhedlaeth nesaf o fio-gynhyrchion a thanwydd, ac efallai hyd yn oed leihau ein dibyniaeth ar olew.
Cynhaliwyd ail gynhadledd: 'Plants as Providers of Fine Chemicals' er mwyn tynnu sylw at ddatblygiadau diweddar yn y maes hwn ym Mhrifysgol Bangor. Croesawyd arbenigwyr ym maes beioburo planhigion i’r Ysgol Cemeg. Rhoddwyd prif anerchiad y gynhadledd gan yr Athro Monique Simmonds FRES, Dirprwy Geidwad Labordy Jodrell a Phennaeth Grŵp Defnyddio Planhigion yn Gynaliadwy, Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew.
Mae Prifysgol Bangor eisoes yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o fusnesau lleol sy'n gweithio yn y maes. Roedd rhai o’r rhain yn bresennol i gyflwyno’u gwaith cyfredol i'r gynhadledd. Fe wnaeth rhoi sylw i’r gwaith hwn trwy’r gynhadledd hefyd amlygu cyfleoedd eraill i gydweithio sy'n bodoli yn y maes arloesol a chyffrous yma.
Un enghraifft o’r cydweithio yw’r berthynas rhwng Superfix Supplements ltd a'r Ysgol Cemeg. O ganlyniad i dair blynedd o gydweithio, mae’r cwmni wedi gwella rheoli ansawdd eu cynnyrch gan arwain at gynnydd yn hyder eu cwsmeriaid yn eu cynnyrch.
Adnabod y planhigion brodorol sy’n cynnwys y cyfansoddion biolegol gweithgar yw’r agwedd fwyaf heriol ar y maes hwn. Y nod yw ehangu’r ystod o blanhigion a ddefnyddir a gwneud y gadwyn gyflenwi yn fwy gwydn.
Trefnwyd y gynhadledd gan Dr Vera Thoss, academydd yn yr Ysgol Cemeg, gan dynnu sylw at y datblygiadau diweddar mewn cemeg planhigion ac, yn arbennig, y defnydd o gyfansoddion wedi’u puro a geir o blanhigion. Maent yn cael eu defnyddio fel cyfryngau amddiffyn planhigion, fel cynhwysion cosmetigau ac at amrywiaeth o ddibenion fferyllol neu ddiwydiannol.
Cyflwynwyd posteri’n esbonio ymchwil wyddonol yn y gynhadledd. Enillydd y wobr am y poster gorau oedd Mohammad Elahmar, myfyrwyr PhD ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y poster yn disgrifio’i waith yn ymwneud â thynnu cemegau defnyddiol o eithin.
Am fwy o fanylion am raglen y gynhadledd ac i weld y cyflwyniadau ewch i'r wefan: www.chemistry.bangor.ac.uk / plants
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2012